Dafydd Dafis, Ol y Fflam

New arrangements of recent Welsh popular classics for voice and piano with the guitars of Hywel Maggs and sax of Dafydd Dafis.

Introduction by Dafydd Dafis: While rehearsing for a concert some years ago, Pwyll and I first thought of making a recording of arrangements for voice and piano. I had already performed and recorded with Caryl Parry Jones and Steve Eaves, and was a great admirer of the songs of Endaf Emlyn and Geraint Jarman, and this recording gives me an opportunity to interpret their songs, as well as other songs less familiar to me.

However, it was not my intention to create different arrangements merely as a novelty. As both Pwyll and I believe all these songs to be ‘classics’, our intention was to simplify rather than to adorn with multi-colour effects. We therefore recorded the voice and piano ‘live’, with as little re-recording and editing as possible. And when Hywel Maggs came into the studio later to add the guitar tracks, it was crucial that the ‘live recording’ feel was retained. In distilling these songs therefore, our wish was to find that spark of inspiration which was inherent in the original versions. I hope you feel we have succeeded in doing so.

Tracks -

01 - Un nos ola leuad

02 - O'r Galon

03 - Y dref wen

04 - Camu nôl wrth gamu 'mlaen

05 - Y Nos yng Nghaer Arianrhod

06 - Nid llwynog oedd yr haul

07 - Ysbryd y Nos

08 - Gweithio ar wyneb y graig

09 - Glaw

10 - Ugain Mlynedd yn ôl

11 - Rhai Pobl.

 

 

Trefniannau newydd o glasuron poblogaidd i lais a phiano, gyda chymorth gitarau Hywel Maggs a sacsoffon Dafydd Dafis.

Cyflwyniad Dafydd Dafis: Wrth ymarfer ar gyfer cyngerdd ychydig flynyddoedd yn ôl, dyma Pwyll a minnau yn taro am y tro cyntaf ar y syniad o wneud record o drefniannau llais a phiano. Roeddwn eisoes wedi perfformio a recordio gyda Caryl Parry Jones a Steve Eaves ac yn edmygydd mawr o ganeuon Endaf Emlyn a Geraint Jarman.

Dyma gyfle felly i ddehongli eu caneuon o’r newydd, ac i roi cynnig ar ambell gân llai cyfarwydd i mi. Fodd bynnag, nid y bwriad oedd creu trefniannau gwahanol er mwyn newydd-deb yn unig. Oherwydd ein bod ni’n credu bod y caneuon hyn i gyd eisoes yn ‘glasuron’, mater o symleiddio oedd y nod yn hytrach na’u haddurno mewn lliwiau llachar ac effeithiau crand. O ganlyniad, fe recordiwyd y llais a’r piano ‘yn fyw’ gyda chyn lleied o ail-recordio a golygu â phosib yn y sesiynau. A phan ddaeth Hywel Maggs i mewn yn ddiweddarach i osod traciau gitâr, roedd hi’n bwysig bod y teimlad o’r perfformiad byw yn aros ar y traciau. Y bwriad wrth fynd ati i ddistyllu a chostrelu’r caneuon hyn, felly, oedd canfod o’r newydd ôl y fflam honno o ysbrydoliaeth a berthynai i’r fersiynau gwreiddiol. Cewch chi’r gwrandawyr benderfynu a lwyddwyd i wneud hynny.

Traciau -

01 - Un nos ola leuad

02 - O'r Galon

03 - Y dref wen

04 - Camu nôl wrth gamu 'mlaen

05 - Y Nos yng Nghaer Arianrhod

06 - Nid llwynog oedd yr haul

07 - Ysbryd y Nos

08 - Gweithio ar wyneb y graig

09 - Glaw

10 - Ugain Mlynedd yn ôl

11 - Rhai Pobl.

£9.99 -



Code(s)Rhifnod: 5016886251424
SAIN SCD2514

You may also like .....Falle hoffech chi .....