Wedi ei roi yn eich basged:
Nwyddau yn eich basged
Cyfanswm: GBP
Aeth pum mlynedd ar hugain heibio ers sefydlu Côr Eifionydd ac i ddathlu’r garreg filltir arbennig yma, penderfynwyd cyhoeddi cryno ddisg a fyddai’n cynnwys caneuon a berfformiwyd yn ddiweddar gan y Côr mewn cyngherddau a chystadlaethau ledled Cymru. Mae’r caneuon yn amrywio o’r clasurol a’r crefyddol i ganeuon gwerin traddodiadol a chaneuon ysgafn.
Mae gan y Côr 38 aelod ar hyn o bryd gyda nifer ohonynt wedi bod yno ers y dechrau. Er hynny, mae’r côr yn ymfalchio yn ei llwyddiant i ddenu aelodau newydd atom yn gyson a’u gweld yn dod yn rhan o gymdeithas gynnes a chyfeillgar y Côr.
Beth sy’n gyfrifol am lwyddiant y Côr dros y chwarter canrif? Mae’r awydd a’r brwdfrydedd i ddysgu darnau newydd er mwyn cystadlu a chynnal cyngherddau yn sicr yn ffactor, ond y rheswm pennaf heb amheuaeth yw cyfraniad Pat Jones, yr arweinydd ers y cychwyn cyntaf. Dan ei harweiniad medrus ac egnïol, datblygodd Côr Eifionydd yn un o’r rhai mwyaf llwyddiannus ac adnabyddus yng Nghymru. Mae eu diolch yn fawr iddi hi ac i’r cyfeilydd amryddawn Catrin Alwen. Un o bleserau bod yn aelod o gôr yw’r cyfle i deithio tramor a chafwyd teithiau cofiadwy i Fienna, Paris, Sbaen ac Iwerddon. Bydd dathliadau pen-blwydd y Côr yn parhau gyda thaith i Wyl Gorawl Prague.
Gair gan Pat: 25 o flynyddoedd ers sefydlu Côr Eifionydd! Onid yw amser yn hedfan? Mae gennyf lu o atgofion melys am y cyngherddau, y cystadlaethau, y darllediadau, y tripiau a’r priodasau. Ond hefyd y gymdeithas sydd mor arbennig – yr un sydd wedi cyfarfod am 25 o flynyddoedd yn Ysgol Treferthyr yng Nghricieth, a’r cyfeillgarwch o’i fewn sy’n ein gwneud yn un teulu mawr. Diolch i bawb sydd wedi bod, ac yn parhau i fod yn aelodau, yn ogystal â chyfeilyddion ac unigolion sydd wedi ymroi mewn unrhyw fodd. Gwerthfawrogir eich cyfraniadau cyfoethog a wnaeth sicrhau llwyddiant y côr ar hyd y blynyddoedd. Côr Eifionydd - mae wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd i gael eich arwain.
Traciau -
1: Cantate Domino
2: Tangnefedd Duw
3: Gweld Phyllis Wnes
4: A Gentle Alleluia
5: Y Tangnefeddwyr
6: Gweddi'r Arglwydd
7: Tyrd Atom Ni
8: Hwiangerdd y Nadolig
9: Y Corn
10: Yr Hydref
11: Cantigl
12: Cerbyd yr Ior.