Côr Dre, Pan Gwyd yr Haul

Sefydlwyd Côr Dre yn 2007 gan griw o bobl ifanc yng Nghaernarfon oedd a’u bryd ar ganu a chymdeithasu.

Cynhaliwyd yr ymarferion cyntaf yng Nghapel Salem, Caernarfon gyda thua phymtheg aelod a thros y chwe blynedd ganlynol, denwyd nifer o aelodau newydd.

Erbyn gwanwyn 2013, roedd y côr yn chwilio am arweinydd newydd ac fe ymunodd Siân Wheway ym mis Ebrill.

Yn ystod y cyfnod dilynol, denwyd mwy o aelodau a chafwyd sawl llwyddiant, gan gynnwys gwobrau corawl mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol, Côr yr Ŵyl Ban Geltaidd 2015 a chyrraedd rownd gynderfynol Côr Cymru 2017. Mae’r côr hefyd wedi ymddangos ar S4C ac wedi recordio lleisiau cefndir i gantorion adnabyddus fel John Owen- Jones a Dafydd Iwan. Erbyn heddiw, mae dros hanner cant o aelodau, yn dod o’r dref a’r ardal o amgylch Caernarfon.

Wrth i’r côr gyrraedd carreg filltir y pen-blwydd yn 10 oed, priodol yw dathlu hynny drwy ryddhau CD o ganeuon amrywiol eu naws, o ganu gwerin i ganeuon newydd sbon cyffrous, yn ogystal â hen ffefrynnau a chyfraniadau unawdol gan hen ffrindiau.

 

Traciau -

01. Rhywun Newydd yn y Dre

02. Marwnad yr Ehedydd

03. Lliwiau'r Gwynt

04. Domine Iesu

05. Y Deryn Pur

06. Yma Wyf Finna' i Fod

07. Rhyfeddod

08. Adre'n Ôl

09. O Hapus Ddydd

10. Pan Gwyd yr Haul

11. Mor Fawr Wyt Ti (Trac Bonws / Bonus Track).

£12.98 -



Rhifnod: 5016886278322
SAIN SCD2783

Falle hoffech chi .....