Wedi ei roi yn eich basged:
Nwyddau yn eich basged
Cyfanswm: GBP
Bydd eich traed yn tip-tapian a’ch calonnau’n clecian wrth wrando ar y casgliad unigryw hwn o hen ffefrynnau ar eu newydd wedd. Yn dilyn llwyddiant y casgliad cyntaf, yma ceir deg cân sy’n gyfarwydd i bawb ohonom! Ffefrynnau sydd i’w clywed yn bloeddio mewn tafarn neu gig, mewn gêm rygbi neu gan gôr meibion! Ond, bydd y fersiynau newydd yn gwneud i chi ddawnsio’n wyllt a chael homar o hwyl wrth floeddio canu mewn parti, clwb, car a wrth ddawnsio neu sglefrolio! Ail gasgliad o ganeuon poblogaidd wedi eu hail-gymysgu ar gyfer y clwb nos, parti neu unrhyw noson hwyliog!
Traciau -
01 - Calon Lân
02 - Tra Bo Dau
03 - I'r Gâd
04 - Un Funud Fach
05 - Hymns and Arias
06 - Hen Ferchetan
07 - Gwyr Harlech
09 - Lawr ar Lan y Môr
10 - Migldi Magldi.