Chwilio am fy Ngeiriau Cyntaf

Author: Dawn Sirett; Welsh Adaptation: Elin Meek.

Flick through the pages to find animals, vehicles, things you would normally find at home, and more! There are puzzles to solve and plenty of fun things to notice, and don't forget about the little bee - she is hiding in every scene! A Welsh adaptation of Hide and Seek First Words published by Dorling Kindersley.

 

Awdur: Dawn Sirett; Addasiad Cymraeg: Elin Meek.

Edrych drwy'r tudalennau i ddod o hyd i anifeiliaid, cerbydau, pethau sydd gartref a mwy! Mae posau i'w datrys a digon o bethau hwyliog i sylwi arnyn nhw, a phaid ag anghofio am y wenynen fach - mae hi'n cuddio ym mhob golygfa! 

 

Os ydych yn chwilio am lyfr i annog plentyn bach i ddarllen ac un sydd hefyd yn mynd i ddatblygu geirfa, dyma’r llyfr i chi. Yn y gyfrol liwgar hon cynhwysir 300 o eiriau cyntaf y gellir eu cyflwyno i blant. O’r dudalen gyntaf un, sy’n llawn o ddarluniau trawiadol, mae’r llyfr hwn yn denu plant bach i ddarllen a mwynhau chwilio am bob math o bethau, sy’n amrywio o silff deganau i helfa drysor. Yn sicr mae’r gwaith yn llwyddo i ennyn chwilfrydedd plant bach i chwilota, holi a thrafod.

Dyma addasiad hynod effeithiol gan Elin Meek o Hide and Seek First Words, ac mae’r nodiadau cryno ar ddechrau’r llyfr yn ddefnyddiol dros ben i riant neu oedolyn wrth ystyried sut i gyflwyno’r gwaith i blant bach. Mae’r mynegai geiriau ar y cefn hefyd o gymorth i athrawon sydd am ddefnyddio hwn fel ffordd i gefnogi themâu yn ystod y blynyddoedd cynnar.

Dyma waith addas iawn i blant dan 5 oed ond gall fod yn adnodd defnyddiol i riant sy’n dysgu Cymraeg hefyd. Rhaid cyfeirio at y darluniau hyfryd gan Rachel Parfitt a Victoria Palastanga, ac at ffotograffau arbennig Dave King, sydd yn sicr o ennyn trafodaeth a bwydo’r dychymyg. Yn ogystal, mae’r posau sydd i’w datrys yn annog plant ychydig hŷn i fwynhau’r cynnwys.

£4.00 - £7.99



Code(s)Rhifnod: 9781855968974
9781855968974

You may also like .....Falle hoffech chi .....