Jig-so Deinosoriaid Hapus

Dyma gasgliad lliwgar o ddeinosoriaid hapus o filiynau o flynyddoedd yn ôl! Roedd rhai yn enfawr, rhai yn fach; rhai yn ysglyfaethwyr, tra bod eraill, fel y llysysyddion gwddf hir sydd i'w gweld yn rhan uchaf y llun, yn bwyta planhigion yn unig. Yn y canol, mae gan y T. rex arswydus geg enfawr sy'n llawn dannedd miniog, tra bod y Triceratops yn dangos ei dri chorn a'i big sydd fel parot.

 

 

 

Mae’r pos yn cynnwys darnau siâp deinosor ac amlinellau cymhleth, perffaith ar gyfer y rheiny sydd wrth eu boddau â deinosoriaid.

Allan o Stoc

Falle hoffech chi .....