Charlie a'r Ffatri Siocled

Author: Roald Dahl; Welsh Adaptation: Elin Meek.

A Welsh adaption of the famous story of Charlie and the Chocolate Factory by Roald Dahl.

 

Awdur: Roald Dahl; Addasiad Cymraeg: Elin Meek.

Ar ôl treulio amser yn rhedeg ei ffatr yn y dirgel, gan wahardd ymwelwyr o unrhyw fath, mae Willy Wonka yn cyhoeddi bod cyfle i blant ddod i ymweld â’i ffatri, os ydyn nhw’n dod ar draws tocyn aur yn un o’i fariau siocled. Er ei fod yn fachgen tlawd mae Charlie yn benderfynol o gael profi’r cyfle unigryw hwn. Cawn gipolwg ar ffatri ffantasïol a hudolus Willy Wonka wrth iddo dywys Charlie a grŵp o blant haerllug, a'u rhieni, drwy'r wahanol rannau.
Mae’r stori ddoniol, ddychmygus hon yn llawn elfennau gwallgof a chlyfar sydd yn siŵr o ysbrydoli darllenwyr ifanc. Mae elfennau gorau – a gwaethaf – dynol ryw i'w cael yn y cymeriadau sy'n cael eu tywys gan Charlie, ac rydyn ni i gyd yn medru adnabod y gwahanol nodweddion yn yr unigolion y daw Charlie ar eu traws.
Dyw llyfrau Dahl ddim yn rhai hawdd i'w haddasu, ond mae hwn wedi llwyddo i gadw ysbryd a naws y gwreiddiol, ynghyd â'r ddychan y gall y darllenwyr hŷn ei gwerthfawrogi. Yn sicr, bydd darllenwyr o bob oed yn cael yr un mwynhad o'i ddarllen.

£6.99 -



Code(s)Rhifnod: 9781849673440
9781849673440

You may also like .....Falle hoffech chi .....