Caryl Parry Jones, Goreuon

17 great tracks by the queen of Welsh popular music from her solo albums and her albums with Injaroc, Bando and Caryl a’r Band. Introduction to the CD by Endaf Emlyn : “When the ‘one hit wonder’ band ‘Injaroc’ was born back in 1976, the most popular song on the album was a song composed by Caryl Parry Jones. This collection contains that gem of a song, ‘Calon’, and traces an extremely successful career. By the end of 1977 ‘Injaroc’ had folded but Caryl was a star…It’s difficult to imagine where we would be without her shining talent.

Quite often one has to dig deep in order to produce a substantial ‘best of’ collection, but in Caryl’s case one is spoilt for choice. Only a fraction, therefore, of Caryl’s best songs appear on this collection! What makes her work so special? For Caryl composing and singing is second nature – as simple as the beauty of her smile. So simple in fact that the hidden creative genius is overlooked. Every one of her compositions is a perfect marriage of melody, harmony and lyrics. As one of our most musical singers she can adapt to any musical style. These songs contain verve and comedy as well as honest emotion. This is the voice that has voiced the concerns and celebrated the successes of generations. These are the songs that have accompanied the trials and tribulations of the Welsh over the years, and hearing them again will bring the memories flooding back. And a taste for more!”

Tracks –

01 - Shampw

02 - Rioed wedi gwneud hyn o'r blaen

03 - Yr ail feiolin

04 - Calon

05 - Bwgi

06 - Y nos yng Nghaer Arianrhod

07 - Gad fi ar ben fy hun

08 - Mor dawel

09 - Ladi wen

10 - Space invaders

11 - Y tango a'r cha cha cha

12 - Pan ddaw yfory

13 - Hwylio drwy'r nen

14 - Saf ar dy draed

15 - Chwarae'n troi'n chwerw

16 - Fedra i 'mond dy garu di o bell

17 - Adre.

 

 

17 o ganeuon mwyaf cofiadwy Caryl oddi ar ‘Halen y Ddaear’ (Injaroc), ‘Bando’, ‘Hwyl ar y Mastiau’ a ‘Shampw’ (Bando), ‘Caryl a’r Band’, ‘Eiliad’ ac ‘Adre’. Pan ddaeth y 'rhyfeddod un hit' hwnnw, Injaroc i fodolaeth 'nol yn 1976, y gan fwya’ poblogaidd ar yr albym oedd cân a gyfansoddwyd gan Caryl Parry Jones. Mae'r casgliad hwn yn cynnwys y berl honno, Calon" ac yn dilyn hynt gyrfa gyfoethog iawn. Erbyn diwedd 1977 roedd Injaroc wedi mynd i'r gwellt ond roedd Caryl yn seren... Mae'n anodd meddwl sut y byddai arnon ni heb ei thalentau disglair.

Rhaid crafu tipyn i chwilio am gasgliad swmpus o oreuon llawer un, ond yn achos Caryl, mae llu o ganeuon gwych yn deilwng. Rhai, felly, o oreuon Caryl a geir yma! Beth sy'n gwneud ei gwaith mor arbennig? Mae cyfansoddi, a chanu yn dod yn gwbl naturiol a rhwydd iddi - mor hawdd â hyfrydwch ei gwên. Yn gymaint felly, fel y gellir yn hawdd peidio sylweddoli bod yna athrylith yn y creu. Mae pob cân o'i heiddo, yn briodas berffaith o alaw, harmoni, a geiriau. Fel un o'n cantorion mwya' cerddorol, mae hi'n gartrefol ymhob arddull. Mae yma ddoniolwch ac asbri, ond hefyd onestrwydd emosiynol ei chaneuon serch. Dyma'r llais fu'n lleisio pryderon, ac yn dathlu llwyddiannau mwy nag un genhedlaeth. Dyma'r caneuon sydd wedi bod yn gyfeiliant i hynt y Cymry dros y degawdau, a bydd eu clywed eto yn siwr o ddod ac atgofion lu. A blas mwy!"

Traciau -

01 - Shampw

02 - Rioed wedi gwneud hyn o'r blaen

03 - Yr ail feiolin

04 - Calon

05 - Bwgi

06 - Y nos yng Nghaer Arianrhod

07 - Gad fi ar ben fy hun

08 - Mor dawel

09 - Ladi wen

10 - Space invaders

11 - Y tango a'r cha cha cha

12 - Pan ddaw yfory

13 - Hwylio drwy'r nen

14 - Saf ar dy draed

15 - Chwarae'n troi'n chwerw

16 - Fedra i 'mond dy garu di o bell

17 - Adre.

£9.99 -



Code(s)Rhifnod: 5016886245423
SAIN SCD2454

You may also like .....Falle hoffech chi .....