Item added to your cart:Wedi ei roi yn eich basged:
Items in your cartNwyddau yn eich basged
TotalCyfanswm: GBP
Author: Peredur Lynch.
Peredur Lynch's first volume of poems, in both strict and free metres.
Awdur: Peredur Lynch.
Y casgliad cyntaf o farddoniaeth Peredur Lynch, yn cynnwys cerddi caeth a cherddi yn y wers rydd.
Peredur Lynch oedd yr ieuengaf erioed i gipio cadair genedlaethol yr Urdd ym Maesteg yn 1979. Bu’n amlwg yn ymrysonau’r Babell Lên yn y degawdau a ddilynodd, cyn ymroi i’w yrfa academaidd lle daeth yn awdurdod ar y traddodiadbarddol ac yn ddarlithydd huawdl a phoblogaidd wrth dderbyn cadair Athro yn yr Ysgol Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Mae’r gyfrol hon – y casgliad cyntaf o’i farddoniaeth – yn dangos na fu’i awen yn dawel yng nghanol prysurdeb ei waith bob dydd. Mae’r awen honno yn loyw a chlasurol ond hefyd yn cynnwys y ffraethineb a’r hiwmor sy’n nodweddu cymeriad Peredur ei hun.