Byd Gwyrdd

Editor: Myrddin ap Dafydd.

Series: Cyfres Lloerig.

A collection of poems for children.

 

Golygwyd gan: Myrddin ap Dafydd.

Cyfres: Cerddi Lloerig.

Cyfrol o gerddi wedi ei golygu gan Myrddin ap Dafydd am warchod y ddaear yw Byd Gwyrdd. Yn y cyflwyniad i’r casgliad mae Myrddin ap Dafydd yn cadarnhau yr hyn yr ydym i gyd yn ei wybod sef bod angen i ni ofalu am ein planed trwy geisio lleihau'r sbwriel yr ydym yn gadael ar ein holau ac ailgylchu neu ailddefnyddio'r pethau y byddem yn y gorffennol wedi eu gwaredu.

Mae’r cerddi yn amrywiol ac yn trafod ystod eang o themâu amgylcheddol. Mae’r rhain yn cynnwys melinau gwynt, fforestydd glaw, compostio, ailgylchu, a diogelu cynefinoedd anifeiliaid prin fel yr arth wen.

Mae yma hefyd gerddi doniol fel ‘Thermostat’ gan Gwyn Morgan sy’n gwneud hwyl am ben y cwpwl sy'n cymryd y busnes o fod yn 'wyrdd' ormod o ddifrif.

Yr un gerdd sydd yn dra gwahanol yw un Dewi Pws sydd yn sôn am ailgylchu geiriau. Nid yw hon yn ffitio gyda’r gweddill o gwbl er ei bod yn ddoniol i'w darllen ac yn glyfar o ran gosod anagramau o eiriau mewn llinellau:

‘a NEWID y DEWIN geirie
Yn ôl fel OEDD e DDOE!’

Fy hoff gerddi yn y gyfrol yw ‘Disco’ gan Zorah Evans sydd yn disgrifio tomen wastraff y dref a’r llanast sydd ynddi. Mae’r ergyd yn y cwpled olaf yn gosod y bai yn haeddiannol ar ein hysgwyddau ni. Y gerdd arall rwyf yn hoff ohoni yw ‘Bocsys Glas a Biniau Gwyrdd’ gan Sandra Morris - mae hon yn fy atgoffa o’r hyn sy’n digwydd yn ein tŷ ni gyda mam fel plismon 'gwyrdd' yn cadw llygad barcud bod y sbwriel i’w ailgylchu yn mynd i’r biniau priodol!

Rwy’n siwr y gwnewch fwynhau’r amrywiaeth sydd yma a chnoi cil ar y cynnwys. Fel y noda Myrddin ap Dafydd yn ei gyflwyniad, ‘Mwynhewch y cerddi, a chanwch y gân sydd ynddyn nhw!’

Gwenno Thomas
Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

£4.50 -



Code(s)Rhifnod: 9781845273248
9781845273248

You may also like .....Falle hoffech chi .....