Item added to your cart:Wedi ei roi yn eich basged:
Items in your cartNwyddau yn eich basged
TotalCyfanswm: GBP
Author: Myrddin ap Dafydd.
Series: Cyfres Celc.
A guide that leads us on a journey through Wales revealing our history through stories about the battles of the past, including colour photographs of the locations.
Awdur: Myrddin ap Dafydd.
Cyfres: Cyfres Celc.
Mae'r gyfrol hon yn mynd â ni ar daith drwy Gymru gan ddangos meysydd ein hanes inni drwy gyfrwng straeon am frwydrau'r gorffennol, yn cynnwys ffotograffau lliw o'r lleoliadau.
Ym mhob cwr o Gymru mae olion brwydrau – rhai ohonynt yn 2000 o flynyddoedd oed. Wrth wynebu’r Rhufeiniaid ar Gaer Caradog, y Gwyddelod ym Môn, Y Sacsoniaid ar Glawdd Offa, y Llychlynwyr ar forfa Llandudno a’r Normaniaid a’u cestyll, roedd byddinoedd brenhinoedd a thywysogion Cymru yn ymladd dros ddyfodol ar y tir hwn. Brwydrau dros Gymru a’i phobl oeddent, a pharhau mae’r ymgyrchoedd drwy’r ymrafael diwydiannol, boddi cymoedd a’r ymgyrchoedd hawliau iaith.
Yn amlach na pheidio, does dim i gofnodi lleoliadau na hanes brwydrau’r gorffennol. Mae’r gyfrol hon yn mynd â ni ar daith drwy Gymru gan ddangos meysydd ein hanes inni.