Wedi ei roi yn eich basged:
Nwyddau yn eich basged
Cyfanswm: GBP
Dyma Gryno Ddisg cyntaf y gwerinwr o Feirionnydd a fu’n byw am gyfnod helaeth yn Nhrefaldwyn, ac sydd bellach wedi ymgartrefu yn Sir Gaernarfon!
Mae dylanwad teuluol amlwg iawn ar yr albwm yma. Cyfansoddwyd geiriau un gân gan y diweddar Geraint Edwards (ewythr) ac mae dwy gân gan Trefor Edwards (ewythr), gyda dau o’i frodyr, Dyfan Roberts a Gerallt Rhun, yn ymuno i ganu un gân. Wrth baratoi nodiadau ar gyfer y clawr, doedd Arfon ddim yn sylweddoli fod Wil Cae Coch (mae cân amdano ar y CD) yn frawd i’w hen, hen nain! Yn ymuno ag Arfon ar drac arall, mae ‘Cogie’ Llanfihangel a Sir Drefaldwyn.
Ymysg y caneuon eraill mae cyfraniadau gan feirdd mor amrywiol â Mei Mac, Mynyddog, Tudur Dylan, Ceiriog, Gwynn ap Gwilym a nifer o ganeuon traddodiadol. Mae yma geinciau traddodiadol yn ogystal ag alawon cerdd dant wedi eu gosod gan Arfon ei hun, alaw o Lydaw, geiriau newydd ar alaw Eric Bogle sef Green fields of France a threfniant gan Cass Meurig. Mae yma ddetholiad o gywydd Tudur Dylan i Elfed Lewys a fu’n cymaint rhan o’r gymdeithas yr oedd Arfon yn rhan ohoni ym Maldwyn. Ceir cyfraniadau gan yr offerynwyr Dylan Cernyw (telyn), Stephen Rees a Huw Roberts (ffidil), Cass Meurig (crwth) a Neil Browning (gitar).
Traciau -
01 - Ffidil a Ffedog
02 - Rhowch broc i’r tân
03 - Hen Benillion
04 - Emaniwel
05 - Yr Hen Lanc
06 - Ambell i Gân
07 - Sion Bach Tynybryn
08 - Gwenno Fwyn
09 - Dod dy Law
10 - Pastai Fawr Llangollen
11 - Cariad cyntaf
12 - Elfed
13 - Y Sguthan
14 - Penyberth
15 - Carol Wil Cae Coch
16 - Marged Fwyn.