Ar Gof a Chadw

Author: Llinos Mair.

Series: Cyfres Wenfro.

A title in Wenfro series, an exciting new scheme for the foundation phase, encouraging young readers to learn about green living in the company of Bwgi-bo and Goleuwen. In this story, Mamgu Iet-wen and her friends go on a magical adventure to Efailwen.

 

Awdur: Llinos Mair.

Cyfres: Cyfres Wenfro.

Stori yng nghyfres Wenfro. O, gwyn ein byd - a gwyrdd!, cynllun cynhwysfawr ar gyfer y Cyfnod Sylfaen. Mae'r straeon yn ddifyr ac yn llawn dychymyg - ac yn berffaith ar gyfer y dyhead sydd nawr i fyw bywyd mwy gwyrdd. Ynddyn nhw, cawn gwrdd â phob math o gymeriadau annisgwyl, o Bwgi-bo, y bwgan brain, i Goleuwen, y chwyddwydr hud.

 

Stori sydd yma am Mam-gu Iet-wen yn tywys eu hwyrion yn ôl i’r dyddiau gynt Gwna hynny drwy ddefnyddio ei chwyddwydr hud Goleuwen ac mae’r darlun o’r hen efail yn hyfryd ac yn rhoi cyfle arbennig i blentyn ddysgu am waith y gof.

Dyma lyfr gwbl wreiddiol sy’n cynnig geirfa dda i blentyn ifanc. Dysgwn hefyd am hen goelion ac arferion sy'n cysylltiedig â blodau arbennig megis dant y llew. Yn wir, dyma siwrne lawn antur sy’n rhoi cyfle i blentyn holi mam-gu neu rywun hŷn yn y teulu am hen arferion neu am eu plentyndod.

Dyma lyfr hyfryd, llawn lliw – yn addas iawn i blant Blwyddyn Derbyn a Blwyddyn 1 ond fe fydd plant iau hefyd yn mwynhau ei fodio ac wrth eu boddau yn gwrando ar y stori.

Sarah Down-Roberts

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

£4.99 -



Code(s)Rhifnod: 9781848518537
9781848518537

You may also like .....Falle hoffech chi .....