Adolygiad Cwsmeriaid / Customer Reviews

Yn seiliedig ar 1 review / Based on 1 review Ysgrifennwch adolygiad am y cynnyrch yma / Write a review

America a'r Rhyfel Cartref a Fi

Author: Huw Griffiths.

This book traces a journey the author undertook over a period of seven months in 1998, when he visited archives, libraries and battlefields across America while conducting doctoral research on the Welsh in the Civil War.


 

Awdur: Huw Griffiths.

Yn 1998, treuliodd yr awdur saith mis yn ymweld ag archifau, llyfrgelloedd a meysydd y gad yn America yn ystod ei ymchwil i ddoethuriaeth ar ran y Cymry yn y Rhyfel Cartref.

 

Yn y gyfrol hon, cawn ei hanes yn cyfarfod nifer helaeth o Gymry o dras Cymreig. Er bod amryw ohonynt wedi’u cymhathu yn Americanwyr ers sawl cenhedlaeth, maent er hynny’n falch o arddel eu cysylltiad Cymreig. Mae hon yn stori bersonol, llawn cameos difyr, yng nghwmni awdur ffraeth a hunan-ddychanol.

Digwyddiadau a chymeriadau’r Rhyfel Cartref sy’n penderfynu llwybrau’r misoedd hynny. Daw’r hanes yn fyw – hanes sy’n dal i siarad gyda ni heddiw.

“Mewn ystyr ehangach, roedd [Rhyfel Cartref America] yn frwydr dros y syniadau am ryddid, cydraddoldeb a rôl y llywodraeth – cwestiynau sy’n cael eu hadleisio hyd heddiw. Ac roedd y Cymry dros eu pennau a’u clustiau yn rhan o’r holl hylabalŵ yma. Fy rôl i oedd datguddio eu stori.” – Huw Griffiths

£9.99 -



Code(s)Rhifnod: 9781845279912

You may also like .....Falle hoffech chi .....