Aled Lloyd Davies, Cyn Cau'r Drws

Casgliad gwerthfawr arall o unawdau gan un o gewri’r byd cerdd dant, Aled Lloyd Davies ynghyd â hen ffefrynnau byrlymus Meibion Menlli.

Does dim angen cyflwyno Aled i ddilynwyr y byd Cerdd Dant, ac mae ei gyfraniad i ddiwylliant Cymru wedi bod yn un eang iawn ac yn parhau i fod felly. O’r un llinach â Llwyd o’r Bryn a’r diweddar Tecwyn Lloyd, gwyddys amdano nid yn unig fel pencampwr ar Gerdd Dant a’r grefft o lefaru, ond fel arweinydd Parti Menlli a chyn brifathro Ysgol Maes Garmon a Chadeirydd Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol.

Yn ei chyflwyniad i CD Aled, mae Mair Carrington Roberts yn dweud: “Cawn wrando ar Aled y datgeinydd di-ail, gyda’i lais telynegol, swynol, a thinc werinol yn ei SAIN. Mae ei wreiddiau yn ddwfn yn yr hen Feirionnydd, a thyfodd ei feistrolaeth o’r grefft a’i arddull naturiol o’r traddodiad brodorol. Mae’n creu cyfalawon treiddgar a dirodres sy’n cyflwyno’n ddidwyll neges a naws y cerddi, boed lon neu leddf. Mae’r detholiad yma yn cynnwys ceinciau a cherddi o blith yr hen ffefrynnau a rhai mwy diweddar sy’n cyfoethogi’r dehongliad a’r mynegiant.” Dewiswyd cerddi caeth a rhydd – hen benillion, cywyddau, cerddi gwlad a bro, emyn o ddiolchgarwch a cherdd Nadoligaidd Symffoni’r Preseb gan Aled ei hun. Fel ar y CD gyntaf, Gwin Hen a Newydd mae cyfeiliant un o’n telynorion disgleiriaf ni, Ceinwen Roberts, yn ganllaw i’r datganiadau a recordiwyd o’r newydd ar gyfer y CD hon.

Traciau -

01 - Cymru Rydd (Bwlchderwin)  

02 - Y delyn (Arfryn  

03 - Anfon y nico (Llwyn Onn)  

04 - Yr ysbryd Sanctaidd (Minllyn)  

05 - Dydd Gwyl Ddewi (Cynfal)  

06 - Rhywun (Maes Garmon)  

07 - Byd yr aderyn bach (Difyrrwch Ieuan y telynor dall)  

08 - Ronsyfal (Hiraethog)  

09 - Symffoni'r preseb (Llangefni)  

10 - Llys Ifor Hael (Trawsfynydd)  

11 - Mab y bwthyn (Tôn alarch)  

12 - Ar wyl ddiolchgarwch (Morannedd)  

13 - Fy Olwen i (Breuddwyd Rhysyn bach)  

14 - Môn a Menai (Breuddwyd y frenhines)  

15 - Teifi (Wyres Megan)  

16 - Dyn y mwyar duon (Ffion)  

17 - Rhieingerdd (Y pural fesur)  

18 - Cwn defaid (Git along li'l)  

19 - Bancio ar Dduw (Llwyn onn)  

20 - Ystrad Fflur (Maes Maelor)  

21 - Aros a Mynd  

22 - Hen Wraig Fach  

£5.99 -



Rhifnod: 5016886254326
SAIN SCD2543

Falle hoffech chi .....