Hogia'r Wyddfa

The Songs - Pentra bach Llanber Gwaun Cwm Brwynog Mr Pwy a Ŵyr Gweddi plentyn Titw tomos las Pe bawn i... Llanc ifanc o Lŷn Y fordaith fawr Rownd yr horn Maradona Ynys yr Hud Dijeridŵ La la la Pan fo'r nos yn hir Dyro gyfle i'r galar gilio Wil Tatws Trw' Crwyn Bwgan y brain Mae'n hwyr y dydd Dafydd ap Siencyn Caru Cymru Safwn yn y bwlch

The Sketches - Hogia'r Coleg Cewri Clyfar Y Tri Ffarmwr Maes Awyr John a Jên Dau Focs Tylluanod Cychwyn Canu Dysgu Drama

Extra Features - Caneuon yn unigol Sgetshus yn unigol Perfformiadau Ychwanegol Troeon Trwstan

Length: approx. 170 minutes.

 

 

Arwel, Myrddin, Elwyn, Vivian a Dic – yr enwau sydd gyda’i gilydd yn gwneud y grŵp enwocaf erioed yn hanes adloniant Cymraeg. Bellach mae’r pump yn dri, ac y mae Arwel, Myrddin ac Elwyn yn dal i ganu i gyfeiliant penigamp Annette Bryn Parri. I ddathlu eu hanner canfed pen-blwydd fel Hogia’r Wyddfa, rydym wedi cywain ynghyd rai o’u perfformiadau teledu gorau, yn ganeuon ac yn sgetshus, i’ch difyrru dros nosweithiau oer y gaeaf. A thrwy ddyddiau hirfelyn tesog yr haf o ran hynny! Un peth sy’n sicr – fe gewch adloniant. Allwedd llwyddiant yr Hogia yw amrywiaeth eu perfformiadau llwyfan, gan droi o ffars y sgets i deimladrwydd Llanc ifanc o Lŷn ac yn ôl at ddifyrrwch Dijeridw cyn ichi droi. A rhywsut yr oedd y doniolwch yn gwneud y difri a’r teimladwy yn fwy effeithiol, a dagrau’r hiraeth yn troi’n hawdd i fod yn ddagrau chwerthin.

Cyflwynir y casgliad newydd hwn gan yr Hogia eu hunain. Yn bwysicaf oll efallai, bu caneuon Hogia’r Wyddfa yn fodd i ail-boblogeiddio rhai o weithiau gorau ein beirdd Cymraeg. A phe na bai ond am hynny’n unig, mae gennym oll ddyled fawr i feibion talentog ‘hen bentra bach Llanbêr’. Mwynhewch y wledd sydd ar y DVD, a boed ichi gael hwyl wrth hel atgofion yng nghwmni’r Hogia.

Y Caneuon:- Pentra bach Llanber Gwaun Cwm Brwynog Mr Pwy a Ŵyr Gweddi plentyn Titw tomos las Pe bawn i... Llanc ifanc o Lŷn Y fordaith fawr Rownd yr horn Maradona Ynys yr Hud Dijeridŵ La la la Pan fo'r nos yn hir Dyro gyfle i'r galar gilio Wil Tatws Trw' Crwyn Bwgan y brain Mae'n hwyr y dydd Dafydd ap Siencyn Caru Cymru Safwn yn y bwlch

Y Sgetshus: Hogia'r Coleg Cewri Clyfar Y Tri Ffarmwr Maes Awyr John a Jên Dau Focs Tylluanod Cychwyn Canu Dysgu Drama Deunydd Ychwanegol:- Caneuon yn unigol Sgetshus yn unigol

Perfformiadau Ychwanegol Troeon Trwstan

Hyd: tua 170 munud.

 

£7.99 - £12.99



Code(s)Rhifnod: 5016886134451
SAIN DVD134

You may also like .....Falle hoffech chi .....