Item added to your cart:Wedi ei roi yn eich basged:
Items in your cartNwyddau yn eich basged
TotalCyfanswm: GBP
Series: Llyfrau Llafar.
A selection of poems by Waldo Williams, read by Damian Walford Davies, Mererid Hopwood, John Gwilym Jones, Tudur Dylan Jones and Gwyneth Lewis.
Cyfres: Llyfrau Llafar.
Detholiad o gerddi Waldo yn cael eu darllen gan Damian Walford Davies, Mererid Hopwood, John Gwilym Jones, Tudur Dylan Jones a Gwyneth Lewis.
..... Y bardd Mererid Hopwood sy’n ein gwahodd ni ar glawr y cryno-ddisg hwn i ymuno â hi ar daith drwy ddyffryn barddonol y bardd Waldo Williams. Hi ei hun sydd wedi mynd ati i ddewis a dethol rhai o gerddi’r diweddar fardd hwn. Ceir dros ddeugain o gerddi wedi’u dosbarthu’n wyth adran megis ‘Yr Eiliad’ a ‘Cymru’. Mae hyn nid yn unig yn dangos yr amrywiaeth yng ngherddi Waldo ond hefyd yn dangos i ni'r pethau hynny a oedd yn bwysig iddo fel bardd a Chymro.
Yn y casgliad ceir rhai cerddi dwys a difrifol a rhai gyda thinc o hiwmor, rhai cerddi cyfarwydd iawn i mi megis ‘Y Tangnefeddwyr’ a ‘Geneth Ifanc’ a rhai llai cyfarwydd i mi'n bersonol megis ‘Y Dderwen Gam’ a ‘Blodyn a Ffrwyth’.
Un o gryfderau mwyaf y cryno-ddisg yma yw bod Mererid Hopwood yn rhoi eglurhad cynnil o gynnwys y cerddi ym mhob adran. Teimlaf fod hyn yn ffordd arbennig o dda i ddenu rhai nad ydynt yn gyfarwydd gyda gwaith Waldo i wrando a dadansoddi ei gerddi. Gellid datblygu hyn ymhellach yn fy marn i drwy roi eglurhad byr o gynnwys pob cerdd yn unigol ar y clawr.
Mae criw o leisiau cynnes a chyfarwydd yn ein harwain drwy bob math o gerddi - cerdd am forgrug, am ddau gae, am fenywod a llawer mwy. Mae Mererid Hopwood ei hun ymysg y llu o feirdd cyfoes megis Gwyneth Lewis a Tudur Dylan Jones sy’n ein swyno gyda’u lleisiau cynnes a chlir yn ystod y cryno-ddisg hwn. Maent yn defnyddio eu dealltwriaeth i liwio a chreu darluniau byw yn ein meddyliau ni fel gwrandawyr o waith un o’u rhagflaenwyr barddonol. Mwynheais ddarlleniad John Gwilym Jones o ‘Mewn Dau Gae’ yn arbennig. Teimlaf er hynny fod tuedd i rai o’r darllenwyr i ddarllen y cerddi yn rhy sydyn i rywun fedru amsugno’r geiriau. Rhaid cofio bod angen denu pobl na fyddai fel arfer yn gwrando a dadansoddi cerddi i fedru gwneud hynny. Mae hyn yn codi cwestiwn arall - pwy yw cynulleidfa’r cryno-ddisg yma? Beirdd? Dysgwyr? Myfyrwyr? Anodd, yn wir, yw cael y cydbwysedd a’r apêl berffaith ac fe geir ymgais dda yma i apelio at amrywiaeth o bobl.
Y cwmni Tympan sydd wedi mynd ati i recordio a chyhoeddi’r casgliad yma o gerddi ar ffurf cryno-ddisg a dyma un ymysg nifer o gryno-ddisgiau a elwir yn ‘Llyfrau Llafar’. Syniad gwych yn fy marn i gan ei fod yn gyfle i ddysgwyr, beirdd a siaradwyr Cymraeg werthfawrogi gwaith un o feirdd mwyaf blaenllaw Cymru a hynny yn y car, yn y lolfa neu hyd yn oed wrth goginio bwyd! Fel myfyrwraig fy hun sydd wedi hen arfer â darllen cerddi hirfaith yn y dosbarth, mae cryno-ddisg fel hwn yn gyfle i bobl ifanc wrando ar feirdd eraill yn adrodd y cerddi hyn gan glywed effaith technegau arddull a chreu ar yr un pryd darluniau byw a lliwgar yn eu meddyliau. Mae hyn yn sicr yn beth pwysig yn enwedig wrth geisio cynnal diddordeb pobl ifanc mewn cerddi sy’n rhan gwbl allweddol o’n hiaith a’n diwylliant.
Gobeithio yn wir y gwelwn fwy o gryno-ddisgiau tebyg yn cael eu rhyddhau yn y dyfodol agos.
Gwenllian Glyn
Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.