Yr Ods, Llithro

Yr Ods have always kept us guessing, wondering what comes next, while their old anthems keep our feet moving. Their EP ‘Nid teledu oedd y bai’ in 2010, the album ‘Troi a throsi’ in 2011, and now one of the Welsh scene’s most popular bands present us with their new long-awaited album ‘Llithro’ (lit. “Sliding”).

Can you remember the early days? Gruff and Griff with their acoustic guitars at Aberystwyth Uni? Later, Rhys Aneurin joining them on keys, and this year, Osian Rhys passes the drumsticks on to Gwion Llewelyn, Race Horses’ ex-drummer. Their sound reflects a musical journey which is never static, from the racy beat of ‘Ffordd ti’n troi dy lygaid’ to the synth-pop of ‘Siân’. And so the journey brings us to ‘Llithro’, where the sound is “much more raw” according to singer and guitarist Griff Lynch. After a spell working with producer Kris Jenkins, the songs are closer to their natural form, without layers of synth and vocal effects.

The singing is once again shared according to the composer, and for the first time the voice of Rhys Aneurin is heard on ‘Haul y Gorllewin’. The themes and lyrics gather more weight at times: more ambiguous and poetic than before. Especially so on ‘Gad i mi lithro’ - a study of what it means to be a young adult in Wales today - a song finishing in a crescendo of crashing guitars, creating one of the band’s more powerful moments.

They also play with elements of melodic trip pop, as heard in the softer synthetic beats of ‘Mae rhywbeth yn gorfod digwydd’. But above all, according to Griff, this is an album “to move your head and feet to”. Official Video for 'Pob un Gair yn Bôs' by Yr Ods

Tracks -

1: Dim Esbonio

2: Pob Un Gair yn Bôs

3: Rhywbeth i Rywun

4: Be Sgen ti Ddweud

5: Addewidion

6: Cysur Gwaed

7: Haul y Gorllewin

8: Llyncu Gwastraff

9: Gad mi Lithro

10: Mae Rhywbeth yn Gorfod Digwydd

Mae Yr Ods wastad wedi'n cadw yng nghledr eu llaw, yn dyfalu beth a ddaw nesaf, a hynny tra bod eu hen anthemau ffyddlon yn dal i symud y traed. Yr EP 'Nid Teledu Oedd y Bai' yn 2010, yr albwm 'Troi a Throsi' yn 2011 a nawr, wele un o'n bandiau mwyaf poblogaidd yn ein cyflwyno ag albwm hir disgwyliedig arall, 'Llithro'.

Fedrwch chi gofio'r dyddiau cynnar? Gruff a Griff â'u gitars acwstig ym Mhrifysgol Aberystwyth? Yn fwy diweddar wedyn, Rhys Aneurin yn ymuno ar yr allweddellau ac eleni, Osian Rhys yn pasio'r ffyn drymio ymlaen i Gwion Llewelyn, cyn-ddrymiwr Race Horses. Mae eu sŵn yn ddrych i daith gerddorol sydd byth yn statig - o guriad diflino 'Ffordd Ti'n Troi Dy Lygaid' i ganeuon synth pop fel 'Siân'. A dyma'r daith yn dod a ni at 'Llithro', ble mae'r sŵn yn "llawer mwy amrwd" yn ôl y canwr a'r gitarydd Griff Lynch. Wedi cyfnod yn gweithio gyda'r cynhyrchydd Kris Jenkins, mae'r caneuon yn llawer mwy triw i’w ffurf naturiol, heb haenau o synths ac effeithiau lleisiau ar eu pennau.

Unwaith eto, mae'r dyletswyddau canu'n cael eu rhannu yn unol â'r cyfansoddwr, ac am y tro cyntaf, clywn lais Rhys Aneurin ar 'Haul y Gorllewin'. Mae themâu a geiriau’r caneuon yn trymhau ar adegau hefyd; yn fwy amwys a barddonol nag o'r blaen. Yn enwedig felly 'Gad i mi lithro' - myfyrdod ar sut beth ydi hi i fod yn oedolyn ifanc yn y Gymru sydd ohoni - cân sy’n cloi gyda chreshendo o grenshian gitars, gan greu yn un o funudau mwyaf grymus y band. Maent yn chwarae hefyd ag elfennau o trip pop melodig, fel y clywir gyda'r bits synthetig, meddal yn 'Mae Rhywbeth yn Gorfod Digwydd'. Ond yn anad, ac yn bwysicach na dim, mae hi'n albwm, yn ôl Griff, "i ti symud dy ben a'th draed iddi". Bydd blwyddyn o dawelwch heb Yr Ods yn cael ei droi ben ei waered yr haf hwn.

Traciau -

1: Dim Esbonio

2: Pob Un Gair yn Bôs

3: Rhywbeth i Rywun

4: Be Sgen ti Ddweud

5: Addewidion

6: Cysur Gwaed

7: Haul y Gorllewin

8: Llyncu Gwastraff

9: Gad mi Lithro

10: Mae Rhywbeth yn Gorfod Digwydd

£4.99 - £9.99



Code(s)Rhifnod: 5055162140199
COPA CD019

You may also like .....Falle hoffech chi .....