The Three Welsh Tenors, Tarantella

Tarantella is the second album by The Three Welsh Tenors. This exciting album, Tarantella, now promises to outshine the success of their debut album, with its combination of the traditional and new, the popular and classical. And as you would expect from these experienced artists, their singing is brimful of passion and wit. The duet from “The Pearl Fishers” is probably the best-known of all operatic duets, but it is sung here for the first time in a new arrangement for three voices. The versatile guitarist Wyn Pearson composed “Cymru, gwelaf di” especially for The Three Welsh Tenors, and he asked Dafydd Iwan to compose the words; the result is a moving testament to Alun, Rhys and Aled’s feelings for Wales, sung with conviction and passion. The same is true of Caradog Williams’ new medley of Welsh evergreen favourites “Men of Harlech”, “Unwaith eto” and Rhys Jones’ “O Gymru”. Caradog, who is the The Three Welsh Tenor’s regular accompanist on stage, also turns arranger in a new Tarantella version of what is probably the best-loved of Welsh traditional songs “Ar lan y môr”, and probably the best-known of all Welsh songs, “Myfanwy” by Joseph Parry. And Aled Hall himself shows his prowess as arranger with his acappella arrangement of “Busy doing nothing” from the film “A Connecticut Yankee in King Arthur’s Court” (Can’t you just see Aled Hall perfectly at home in the court of King Arthur?!) But that is not all!

If you were asked to name the ten most-sung popular songs in the Western world, your list would probably include “O sole mio”, “My way” and “Bridge over troubled water”. Well, they are all on this album, together with the beautiful title song “Tarantella Napoletana”, all arranged by John Quirk, and accompanied by the Welsh Session Orchestra. And to crown it all, a new arrangement by Wyn Pearson of the Welsh hymn “Rhys”, sung here in Welsh and in English as a bonus track. What more does a man or woman need?

Tracks -

1: Tarantella Napoletana

2: Ar Lan y Mor

3: Bridge Over Troubled Water

4: Gymru, Gwelaf Di

5: Au Fond du Temple Saint

6: Rhys

7: My Way

8: Myfanwy

9: Medli Gwŷr Harlech - i. Gwŷr Harlech ii. Unwaith Eto iii. O Gymru

10: O Sole Mio

11: Rhys

12: Busy Doing Nothing

 

 

Hon yw ail albym y tenoriaid sydd wedi rhoi Cymru ar dȃn - Rhys Meirion, Aled Hall ac Alun Rhys Jenkins. Ac y mae gwres y tȃn hwnnw i’w deimlo drwy wledydd Prydain a Gogledd America erbyn hyn.

Mae’r albym hon yn addo curo llwyddiant y gyntaf, gyda chyfuniad gwych o’r newydd a’r traddodiadol, y poblogaidd a’r clasurol. Mae’n debyg mai’r ddeuawd o’r “Pysgotwyr Perl” yw deuawd enwocaf y byd opera, and am y tro cyntaf fe’i clywir yma mewn trefniant newydd i dri llais, ac roedd hi’n werth disgwyl am hon!

Mae Wyn Pearson yn enwog fel gitarydd medrus, ond trodd y Tri Tenor ato fel cyfansoddwr, a gofynnodd yntau i Dafydd Iwan roi geiriau i’w alaw. Mae’r canlyniad, “Cymru, gwelaf di” yn sicr o gydio, diolch i ganu sensitif a diffuant Rhys, Aled ac Alun. Ac yma hefyd gwelir ochr arall i ddawn Aled Hall, sydd wedi trefnu “Busy doing nothing” allan o’r ffilm “A Connecticut Yankee in King Arthur’s Court” (oni allwch chi weld Aled yn berffaith gartrefol yn llys y Brenin Arthur?).

Caradog Williams yw cyfeilydd talentog Tri Tenor Cymru pan fyddan nhw yn ymddangos mewn cyngerdd, ac ef hefyd sydd wedi creu’r trefniant hyfryd a glywir yma o un o’n caneuon gwerin mwyaf poblogaidd, “Ar lan y môr”, a medli newydd Gymreig sy’n cyfuno “Gwŷr Harlech”, “Unwaith eto ‘Nghymru annwyl” a chlasur Rhys Jones “O Gymru”, yn ogystal â threfniant newydd o “Myfanwy”. Ond nid dyna’r cyfan o bell ffordd! Pe bai rhywun yn gofyn ichi enwi deg o’r caneuon mwyaf poblogaidd a genir ar lwyfannau’r byd gorllewinol, mae’n debyg y byddai “Bridge over troubled water”, “My way” ac “O sole mio” ar restr y mwyafrif ohonoch. Wel, maen nhw i gyd yma, yn ogystal â’r gân-deitl rymus “Tarantella Napoletana”, i gyfeiliant Cerddorfa Sesiwn Cymru ac i drefniant John Quirk, ac fel coron ar y cyfan mae un o emyn-donau hyfrytaf Cymru, “Rhys”, mewn trefniant newydd o waith Wyn Pearson, yn cael ei chanu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Beth mwy mae dyn (neu ddynes) ei angen? 

Traciau -

1: Tarantella Napoletana

2: Ar Lan y Mor

3: Bridge Over Troubled Water

4: Gymru, Gwelaf Di

5: Au Fond du Temple Saint

6: Rhys

7: My Way

8: Myfanwy

9: Medli Gwŷr Harlech - i. Gwŷr Harlech ii. Unwaith Eto iii. O Gymru

10: O Sole Mio

11: Rhys

12: Busy Doing Nothing

£5.99 - £12.98



Code(s)Rhifnod: 5016886268521
SAIN SCD2685

You may also like .....Falle hoffech chi .....