Trebor Edwards, Sicrwydd Bendigaid

One of the most popular singers of his day, presents a collection of his favourite hymns, 8 in Welsh and 4 in English, accompanied by the acclaimed pianist Annette Bryn Parri.

Tracks -

01 - Dyma fy stori dyma fy nghan

02 - O fy Iesu bendigedig

03 - Abide with me

04 - A yw fy enw i lawr?

05 - Arglwydd Iesu dysg im gerdded

06 - Love divine all loves excelling

07 - Pererin wyf

08 - Tydi a wnaeth y wyrth

09 - Fy Nuw fy Nhad fy Iesu

10 - The old rugged cross

11 - Wel dyma hyfryd fan

12 - How great Thou art.

 

 

Dyma Sain yn cyhoeddi cryno-ddisg o Trebor yn canu deuddeg o emynau, wyth yn Gymraeg a phedair yn Saesneg. Mae rhai ohonyn nhw yn rhai poblogaidd megis O fy Iesu bendigedig, Tydi a wnaeth y wyrth ac Abide with me, eraill ddim mor adnabyddus, nid fel emynau a genir yn unawdau beth bynnag, megis Fy Nuw fy Nhad fy Iesu ar y dôn Pen-lan a Wel dyma hyfryd fan ar y dôn Clorach, a fydd, synnwn i ddim, yn un o’r ffefrynnau. Fe’u trefnwyd ar ei gyfer gan Annette Bryn Parri a hi hefyd sy’n cyfeilio, ac y mae hynny ynddo’i hun yn warant o safon uchel.

Beth sy’n gwneud Trebor yn ganwr mor dda, yn ganwr mor boblogaidd? Mae’r ateb yn syml: cynhesrwydd ei lais a’i eirio clir. Ond mae mwy iddi na hyn’na hefyd. Nid argraff yn unig yw’r cynhesrwydd yn ei lais, nid act y datganwr proffesiynol, ond adlewyrchiad a mynegiant o’i bersonoliaeth gynnes, hoffus ef ei hun. A’r geirio clir? Dylanwad ei fagwraeth a’r cefndir cerddorol cyfoethog y magwyd ef ynddo yn y Betws, ac yn fwy na dim, dylanwad ei daid, - ei athro cerdd, ei fentor, ei arwr ym myd y gân. Y mae’r rhinweddau hyn i’w cael eto yn y gryno-ddisg newydd hon a bydd miloedd cefnogwyr Trebor yn llawenhau o’i gweld yn cael ei chyhoeddi.

Ac wrth wrando arni, cofiwch fod emynau yn golygu mwy i Trebor na chanu unawd a gwerthu record, gan ei fod hefyd yn codi canu o Sul i Sul yn ei gapel, capel y Gro yn y pentref. Trowch y peiriant ymlaen, eisteddwch yn gyfforddus a gadewch i’r hyfryd lais olchi drosoch, a bydd yr emynau hyn yn dod â llonder i’ch calon, gwên i’ch wyneb ac ambell ddeigryn i’ch llygaid.

Traciau -

01 - Dyma fy stori dyma fy nghan

02 - O fy Iesu bendigedig

03 - Abide with me

04 - A yw fy enw i lawr?

05 - Arglwydd Iesu dysg im gerdded

06 - Love divine all loves excelling

07 - Pererin wyf

08 - Tydi a wnaeth y wyrth

09 - Fy Nuw fy Nhad fy Iesu

10 - The old rugged cross

11 - Wel dyma hyfryd fan

12 - How great Thou art.

 

£2.99 - £5.99



Code(s)Rhifnod: 5016886253022
SAIN SCD2530

You may also like .....Falle hoffech chi .....