Gwibdaith Hen Fran, Llechan Wlyb

With their third release, Gwibdaith Hen Frân score a hat trick with Llechan ‘Wlyb, an album full of fun and frolicks. We welcome the entertaining and unique collection of songs, released by Rasal, with a tap of the foot from start to finish.

The eclectic album offers bucket load of talent and crossovers in various genres - from gipsy to bluegrass and from jazz to folk. Each band member brings a different element to the album and the range of influences is highlighted in the cross-section of tracks. Once again their music, feeling and thrill are unmistakable. Their strong instrument sounds are to be heard on each track, with the addition of the violin and harp.

Llechan ‘Wlyb showcases the personal and humorous stories in the world of Gwibdaith Hen Frân - a fun place to be! Guitarist Paul Thomas said, “There’s a song about sitting in the back of a van on a long journey where my posterior gets numb, another story about Auntie Fanny and Uncle Willy having some fun and another story about one of the lads trying to chat up an English girl in the Ring in Llanfrothen, using one of the best chat up lines ever!”

The band’s development is apparent between the first and second album, yet their boundaries are pushed ever further on Llechan ‘Wlyb, as the band members also produced the album in Sain studios.

Paul said, “Regular gigging over the years has had an inevitable influence on the band and we’re playing tighter that ever, live and in the studio. We’re keen to develop our lyrics, and whereas our songs used to be about the fun we had on the weekends, our weekends are now spend gigging and touring Wales. But...there are still songs about posteriors and lobscouse, therefore the childish element remains!”

There are numerous highlights to this release, and almost certainly includes Ping Pong, a fun and exciting track. Paul added, “The lyrics describe our fun weekends and the tempo and mix of instruments keeps it interesting and entertaining. It starts with a bang and makes you tap your feet from start to finish...I think it will be a hit!”

Tracks -

01. Untro

02. Gwena

03. Dau Wy Pasg

04. Fyny ac i Lawr

05. Ble aeth y Miwsig?

06. Meddwl Ddaru Wil

07. Agor fy Nghalon

08. Amsterdam

09. Nionod

10. Mwsh Mwsh

11. Anti Ffani, Yncl Wili

12. Ping a Pong

13. Mr Mason

14. Ffordd y Plas

15. Tanygrisiau

16. Awtro

Bydd Cymry penbaladr yn llawenhau wrth i drydydd albwm y band Gwibdaith Hen Frân gyrraedd y siopau - mae ‘Llechan Wlyb’ yn gasgliad llawn hiwmor a direidi sy’n adrodd hynt a helynt cymeriadau unigryw cefn gwlad Cymru a straeon personol a doniol y pedwar aelod sy’n creu Gwibdaith Hen Frân. Gan gadw’n dryw i’w steil unigryw clywir llinellau bachog fel ‘Bochau tin fel dau ŵy Pasg’ a ‘Ping a pong a pipi’ i gyfeiliant sain acwstig adnabyddus y band sy’n plethu arddulliau cerddoriaeth sipsi, bluegrass, jas a gwerin.

Dyma’r tro cyntaf i Gwibdaith gynhyrchu recordiad ar ei liwt eu hunain ac yn ôl Paul Thomas, gitarydd ac un o brif leiswyr y grŵp; ‘Mae bob aelod wedi dod a rhywbeth gwahanol i’r albwm gan gyfrannu’n reit gyfartal i’r cyfansoddi a’r cynhyrchu. Gyda’r albwm gynta’ roedd y caneuon i gyd yn barod cyn mynd i’r stiwdio a gyda’r ail roedd lot o ganeuon ar ôl. Y tro yma, ‘da ni ‘di bod mor brysur gyda gigs, ni ‘di dod fewn efo syniadau a hanner caneuon a ‘neud lot o’r gwaith yn y stiwdio.’

Un o gryfderau amlwg Gwibdaith Hen Frân yw eu gallu i gyfansoddi caneuon digri a bachog sy’n adrodd straeon doniol a phersonol; ‘Ar Llechan Wlyb ma ‘na gân am eistedd yng nghefn fan am oriau ar y ffordd i Wlad y Basg a bochau fy nhin yn mynd yn ddideimlad oherwydd y daith hir. Mae ‘na son am Anti Ffani ac Yncl Wili yn chwarae’n hapus braf a hanes un o’r hogiau yn cyrraedd y Ring yn chwil ac yn trio ei orau i ‘chattio’ rhyw hogan Saesneg i fyny drwy ddefnyddio un o’r ‘chatup lines’ gorau yn y byd!’, esbonia Paul.

Does dim amheuaeth bod y perfformio cyson dros y blynyddoedd wedi dylanwadu ar gerddoriaeth a hyder y band wrth recordio; ‘Ma’r holl gigs wedi neud ni’n dynnach wrth berfformio a ‘da ni wedi dysgu lot am sut i fod mewn stiwdio a sut mae cân fod i ddatblygu.’ Ac mae’r elfennau yma i’w clywed yn glir ar Llechan Wlyb wrth i’r band wahodd cyfraniadau gan offerynwyr gwadd ar ambell i drac, daw cyfraniadau ar y delyn a’r ffidil gan Llinos ac Angharad o’r grŵp gwerin Calan, Edwin Humphreys ar y clarinét a’r sacsoffon, Euron ‘Jos’ Jones ar gitâr sleid a’r gitâr pedal dur, Alex Moller ar y bohran, Justin Davies ar yr harmonica a’r canwr-gyfansoddwr Geraint Lovgreen ar yr acordion.

Yn ôl Gwibdaith, ‘da ni’n hapus iawn gyda Llechan Wlyb mae o’n fwy eclectig na’r ddwy gynta’,’ ac wrth sôn am uchafbwyntiau’r albwm, mae Paul yn cyfeirio at y gân Ping a Pong, sef cân a gyfansoddwyd gan y band i gyd; ‘Ma’r geiriau yn sôn am hanes penwsnosau o hwyl ‘da ni wedi cael yn y gorffennol a ma’r tempo a’r cymysgedd o offerynnau sy’n gyfeiliant yn cadw’r gân yn hwyliog ac yn ddiddorol. Ma’n dechre efo bang ac yn dal ati sy’n neud i chdi dapio dy droed o’r dechrau i’r diwedd… hit yn fama gobeithio!’ Os yw playlist Radio Cymru yn arwydd o hit, yna mae gobeithio’n Paul a gweddill y band wedi eu gwireddu eisoes gan fo’r geiriau bachog ‘Ping a pong a pipi’ i’w clywed yn ddyddiol ar donfeddi’r gorsafoedd cenedlaethol ers ychydig wsnos bellach!

Traciau -

01. Untro

02. Gwena

03. Dau Wy Pasg

04. Fyny ac i Lawr

05. Ble aeth y Miwsig?

06. Meddwl Ddaru Wil

07. Agor fy Nghalon

08. Amsterdam

09. Nionod

10. Mwsh Mwsh

11. Anti Ffani, Yncl Wili

12. Ping a Pong

13. Mr Mason

14. Ffordd y Plas

15. Tanygrisiau

16. Awtro

£4.99 - £12.98



Code(s)Rhifnod: 5055162100322
RASAL CD032

You may also like .....Falle hoffech chi .....