Elgan Llyr Thomas, Llwybrau'n Cân

Elgan graduated from the Royal Northern College of Music with a first class Bachelor of Music degree. Whilst there he studied with fellow tenor David Maxwell Anderson and was the recipient of many awards including the Elsie Thurston Prize, the Gwilym Gwalchmai Jones award and the Manchester Welsh Society award. He was also selected by the college to represent them at the Junior Kathleen Ferrier Awards in 2009 and also at the Clonter Opera prize, 2012.

In 2010 Elgan won the solo from a musical at the Urdd National Eisteddfod in Ceredigion, gaining him a place in the coveted Urdd National Eisteddfod Bryn Terfel Scholarship, which he won with an unanimous decision by the panel. This award led to invitations to perform in concerts throughout Wales and the North West of England. His performance highlights include singing duets with Bryn Terfel on his 2011 Christmas TV show for S4C, and with John Owen Jones at the opening concert of the 2011 Urdd National Eisteddfod in Swansea. He has also performed with Hayley Westenra in a concert with the Maelgwn Male Choir, and with Ruthie Henshall in a concert with Rhosllanerchrugog Male Choir. More recently he was invited by the Liverpool Welsh Choral Society as a soloist in The Armed Man – A Mass for Peace with the choir and the Liverpool Philharmonic Orchestra at the Philharmonic Hall in Liverpool under the baton of its composer, Karl Jenkins.

Elgan was one of the first recipients of a Bryn Terfel Foundation Study Grant, and was invited to perform with Bryn and other recipients at the centenary concert of the Pritchard Jones Hall in Bangor University. In the Bro Morgannwg National Eisteddfod in 2012 Elgan enjoyed outstanding successes, winning the Operatic Solo, Welsh Solo, the Osborne Roberts Memorial Prize with a scholarship from the London Welsh Male Voice Choir, the Solo from a Musical with a scholarship from Urdd Lifrai Cymru, and the David Lloyd and Jean Skidmore Memorial Prize for the most promising tenor at the festival.

Tracks -

01. Gwlad y Delyn

02. Bugail Aberdyfi

03. Dafydd y Garreg Wen

04. Elen Fwyn

05. Arafa Don

06. Lisa Lân

07. Pwy Fydd Yma ’Mhen Can Mlynedd?

08. Ar Lan y Môr

09. Y Cymro

10. Yr Hwyr

11. Anfonaf Angel

12. Calon Lan.

 

 

Graddiodd Elgan gyda gradd dosbarth cyntaf mewn cerddoriaeth o’r Royal Northern College of Music. Tra’n y coleg astudiodd gyda’r tenor David Maxwell Anderson a derbyniodd sawl gwobr yn cynnwys Gwobr Elsie Thurston, anrhydedd Gwilym Gwalchmai Jones ac anrhydedd Cymdeithas Gymreig Manceinion. Cafodd ei ddewis gan y coleg yn 2009 i’w cynrychioli yn y Junior Kathleen Ferrier Awards, lle cafodd y drydedd wobr, ac hefyd yn y gwobrau Clonter Opera yn 2012.

Yn 2010 enillodd Elgan y gystadleuaeth Unawd o Sioe Gerdd yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Ngheredigion; aeth hynny ag ef ymlaen i gystadlu yn Ysgoloriaeth Bryn Terfel, ac enillodd yr ysgoloriaeth honno gyda dyfarniad unfrydol. Arweiniodd hynny at wahoddiadau lu i berfformio mewn cyngherddau ar hyd a lled Cymru a gogledd Lloegr. Mae ei uchafbwyntiau yn cynnwys canu deuawdau gyda Bryn Terfel ar ei raglen nadolig i S4C yn 2011, a chanu gyda John Owen Jones yng nghyngerdd agoriadol Eisteddfod yr Urdd yn Abertawe.

Yn ogystal â hyn mae wedi perfformio gyda Hayley Westenra mewn cyngerdd gyda Chôr Meibion Maelgwn, a gyda Ruthie Henshall mewn cyngerdd gyda Chôr Meibion Rhosllanerchrugog. Yn ddiweddar cafodd wahoddiad gan Gymdeithas Gorawl Gymreig Lerpwl i ganu fel unawdydd yn The Armed Man – A Mass for eace gyda’r côr a Cherddorfa Philharmonic Lerpwl yn y Neuadd Philharmonic gyda’r cyfansoddwr Karl Jenkins yn arwain. Roedd Elgan yn un o’r rhai cyntaf i dderbyn grant astudio gan Sefydliad Bryn Terfel, a chafodd wahoddiad i berfformio gyda Bryn ac artistiaid ifanc eraill yng nghyngerdd canmlwyddiant Neuadd Pritchard Jones ym Mhrifysgol Bangor. Yn ddiweddar perfformiodd Elgan y prif ran yng nghynhyrchiad RNCM o Albert Herring gan Benjamin Britten. Yn ‘Opera Scenes’ y coleg hefyd mae wedi perfformio y rhannau Jaquino yn Fidelio, Lysander yn A Midsummer Night’s Dream, Roméo yn Roméo et Juliette, Telemaco yn Il Ritorno d’Ulisse in Patria, Ferrando yn Cosi Fan Tutte, Prunier yn La Rondine a Rodolfo yn La Boheme. Bu Elgan hefyd yn canu rhan Macduff yng nghynhyrchiad diweddar OPRA Cymru o Macbeth gan Verdi.

Yn Eisteddfod enedlaethol Bro Morgannwg yn 2012 cafodd Elgan lwyddiant ysgubol gan ennill yr Unawd Operatig, yr Unawd Gymraeg, Gwobr Goffa Osborne Roberts gydag ysgoloriaeth gan Gôr Meibion Cymry Llundain, unawd allan o Sioe Gerdd gydag ysgoloriaeth gan Urdd Lifrai Cymru, a Gwobr Goffa David Lloyd a Jean Skidmore i’r tenor mwyaf diglair yn yr Wŷl.

Traciau -

01. Gwlad y Delyn

02. Bugail Aberdyfi

03. Dafydd y Garreg Wen

04. Elen Fwyn

05. Arafa Don

06. Lisa Lân

07. Pwy Fydd Yma ’Mhen Can Mlynedd?

08. Ar Lan y Môr

09. Y Cymro

10. Yr Hwyr

11. Anfonaf Angel

12. Calon Lan.

£7.99 - £12.98



Code(s)Rhifnod: 5016886268224
SAIN SCD2682

You may also like .....Falle hoffech chi .....