Item added to your cart:Wedi ei roi yn eich basged:
Items in your cartNwyddau yn eich basged
TotalCyfanswm: GBP
Aelwyd Bro Gwerfyl was set up in 1987 for the young people of the rural area centred around the village of Betws Gwerfyl Goch, near Corwen. This became the focus of youth culture in the area, and it rapidly made a name for itself, under the leadership of Margaret Edwards, in singing competitions the length and breadth of Wales. When the members passed the Aelwyd age group, the choir carried on as Côr Bro Gwerfyl, and the success in Eisteddfodau and on concert platforms has continued. They have won major competitions in the National Eisteddfod and the National Cerdd Dant Festival, and one of their international highlights was performing in Cork before an audience of 1000 for Muscular Dystrophy. The reaction they had at that concert to their performance of You raise me up persuaded them to include it on this CD.
Tracks –
01 - Adeiladu mynydd
02 - Salm 23
03 - Mae'r llew yn cysgu'n drwm
04 - Si hei lwli
05 - Cantilena
06 - Am brydferthwch daear lawr
07 - You raise me up
08 - Ffalabalam
09 - Y Tangnefeddwyr
10 - Golau'r gannwyll yn y t'wyllwch
11 - Gweddi Affricanaidd
12 - Dilynwn di.
Datblygodd Côr Bro Gwerfyl yn naturiol o fwrlwm gweithgarwch a llwyddiannau cenedlaethol Aelwyd Bro Gwerfyl a sefydlwyd yn 1987. Bu’r Aelwyd yn llwyddiannus iawn yn ei chyfnod gan ddod i’r brig yn Eisteddfod yr Urdd dros gyfnod o ddeng mlynedd. Gydag anogaeth lleol a brwdfrydedd yr aelodau i barhau fel côr, llwyddwyd i wneud hynny a sefydlu Côr Bro Gwerfyl. Yn ystod y cyfnod hwn mae’r côr wedi bod yn fuddugol yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Yr Wyl Gerdd Dant ac Eisteddfod Cadair a Thalaith Powys.
Bellach yn griw bach cartrefol mae eu calendr yn brysur tu hwnt gyda gwahoddiadau’n dod i law am Gyngerdd, Noson Lawen neu Wedi’r Oedfa. Mae teithio hyd a lled y wlad yn bleser iddynt ac yn cynnig llawer iawn o hwyl! Un o’u huchafbwyntiau oedd canu mewn Cyngerdd yn ninas Corc yn Iwerddon yn 2006, yn canu o flaen cynulleidfa o fil yn cefnogi’r elusen Distroffi ’r Cynhyrau. Roeddynt yn awyddus i gynnwys cân gyda chysylltiad ag Iwerddon, ac aethpwyd ati i ddysgu You Raise Me Up - un o senglau poblogaidd WestLife. Gwnaed cryn argraff ar y gynulleidfa oherwydd dyna arwyddgan elusen Distroffi ’r Cynhyrau yn y wlad! Mae’r aelodau’n diolch i Margaret Edwards, eu Cyfarwyddwr Cerdd, ac i Eleri Thomas a Teleri Jones y Cyfeilyddion, am eu hymroddiad llwyr.
Traciau -
01 - Adeiladu mynydd
02 - Salm 23
03 - Mae'r llew yn cysgu'n drwm
04 - Si hei lwli
05 - Cantilena
06 - Am brydferthwch daear lawr
07 - You raise me up
08 - Ffalabalam
09 - Y Tangnefeddwyr
10 - Golau'r gannwyll yn y t'wyllwch
11 - Gweddi Affricanaidd
12 - Dilynwn di.