Y Bandana, Fel Tôn Gron

Tracks -

01. Dal i Ddysgu

02. Y Felan Las

03. Meddwl Rhydd

04. Dant y Llew

05. Agor dy Ben

06. Dŵr, Tân, Cân

07. Disgyn

08. O Rïa

09. Diwedd y Gân

10. Cyn i'r Lle 'ma Gau.

 

 

  

Dyma albwm llawn egni, amrywiaeth ac wrth gwrs alawon bachog sydd wedi cael ei recordio a’i gynhyrchu gan y band ei hun. Mae’r albwm yn ffrwyth llafur aelodau’r band sydd wedi datblygu drwy eu profiadau blaenorol yn y stiwdio ac o berfformio’n fyw yn ddidrugaredd ers ffurfio pan oedd y pedwar yn yr ysgol nôl yn 2007.

Mae “Fel Tôn Gron” yn gasgliad o ddeg o ganeuon sydd heb eu rhyddhau o’r blaen – ond bydd rhai caneuon yn gyfarwydd i fynychwyr rheolaidd gigs hwyliog ac egniol y band am eu bod wedi bod yn eu cynnwys yn ei set byw ers yr haf.


O’r gân roc gwleidyddol “Dal i Ddysgu” i’r caneuon pop hwyliog a direidus “Dant y Llew” ac “Y Felan Las” i’r hamddenol “Cyn i’r Lle ‘ma Gau”, mae’r albwm hwn yn gymysgedd o ganeuon i apelio at bob chwaeth.

Traciau -

01. Dal i Ddysgu

02. Y Felan Las

03. Meddwl Rhydd

04. Dant y Llew

05. Agor dy Ben

06. Dŵr, Tân, Cân

07. Disgyn

08. O Rïa

09. Diwedd y Gân

10. Cyn i'r Lle 'ma Gau.

£9.99 -



Code(s)Rhifnod: 5055162140243
COPA CD024

You may also like .....Falle hoffech chi .....