Trio

TRIO is a new singing experience from the heart of Snowdonia, featuring the great young voices of Bedwyr Gwyn Parri (baritone), Emyr Wyn Gibson (tenor) and Steffan Lloyd Owen (bass-baritone). But talent such as this does not appear from thin air – TRIO’s roots are deep in a culture of music and song, a culture where singing is the natural mode of enjoyment, and where singing in harmony is second nature.

The songs on this debut album have been chosen simply because TRIO love singing them, and they range from favourite Welsh hymns to musical hits, together with a good measure of Welsh language and English pop classics of recent years. The common element is a strong melody, and songs which lend themselves naturally to harmony singing. And to complete the Deiniolen dimension – the remarkable slate quarry village where Annette and Bedwyr live and where Emyr grew up - the ensemble from the local Silver Band is heard on three of the tracks. Steffan also has a connection with Deiniolen, as his grandmother, Elizabeth Ann Owen, was brought up in the village.

A debut album which we know you will thoroughly enjoy, and will certainly be followed by another if the audience reaction to TRIO’s live performances means anything at all.

Tracks -

1: Lle'r Wyt Ti

2: Always There

3: Dros Gymru'n Gwlad

4: Hen Ŵr ar Bont y Bala

5: The Voyage

6: Angor

7: Pan Fwyf yn Teimlo'n Unig Lawer Awr

8: Un Eiliad Mewn Oes

9: Rwy'n dy Weld yn Sefyll

10: Anfonaf Angel

11: Wind Beneath my Wings

12: Angel Duw.

 

 

Mae’n annheg cyplysu triawd ifanc mor gynnar yn eu gyrfa ag un o enwau mwyaf y llwyfan Cymraeg, ond gan fod Annette hefyd yn gyfeilydd i neb llai na Hogia’r Wyddfa nid yw’n anodd gwneud y cyswllt.  Gwreiddiau’n ddwfn yn Eryri, tri llais yn asio’n wych, a hoffter o ganu ac o ddiddanu yn amlwg ymhob nodyn, mae’r olyniaeth yn naturiol. Ond rhaid i’r triawd newydd yma wneud ei farc ei hun, a gwta flwyddyn ar ôl eu cyngerdd cyntaf , dyma Bedwyr, Emyr a Steffan yn cyflwyno’u casgliad cyntaf o ganeuon fel y gellwch farnu drosoch eich hunain. Mae’r dewis o ganeuon ar y ddisg yma yn dangos yn eglur beth yw blaenoriaethau, a beth yw cryfderau TRIO.

Caneuon ydyn nhw gydag alawon cryf, a chaneuon y mae cantorion yn mwynhau eu canu, a chaneuon sy’n benthyg eu hunain i ganu mewn cynghanedd lleisiol. A chaneuon sy’n dod o sawl cyfeiriad gwahanol, o emynau Cymraeg i glasuron pop Saesneg, caneuon o’r sioeau cerdd, a rhai o glasuron diweddar y llwyfan poblogaidd Cymraeg. A gwych yw cyfuno lleisiau Bedwyr, Emyr a Steffan gydag un arall o draddodiadau hyfyw ardal Deiniolen, sef y Seindorf Arian enwog. Mae gan Steffan hefyd gysylltiad gyda Deiniolen, gan fod ei nain, Elizabeth Ann Owen, wedi ei magu yn y pentref. Rwy’n siŵr y cewch fwynhad mawr o wrando ar gyfoeth hyfryd y casgliad hwn, ac y cytunwch fod yna flas llawer mwy arno.

Traciau -

1: Lle'r Wyt Ti

2: Always There

3: Dros Gymru'n Gwlad

4: Hen Ŵr ar Bont y Bala

5: The Voyage

6: Angor

7: Pan Fwyf yn Teimlo'n Unig Lawer Awr

8: Un Eiliad Mewn Oes

9: Rwy'n dy Weld yn Sefyll

10: Anfonaf Angel

11: Wind Beneath my Wings

12: Angel Duw.

£9.99 - £12.98



Code(s)Rhifnod: 5016886270920
SAIN SCD2709

You may also like .....Falle hoffech chi .....