Sibrydion, Simsalabim

After the prodigious success of JigCal, this album marks the exciting new career step for one of Wales’ favourite bands. Tipped as one of the best albums of 2007, Sibrydion have developed and grown since the release of their debut album, JigCal, in 2005. Dafydd Nant has now joined the band and Osian Gwynedd will be on keys. Osian said, “It will now be easier to re-create our sound in live performances. The band’s sound has developed and we are using more instruments including cavaco (similar to the eukalele), melodica (similar to the accordion and harmonica) flutes, bells, and beer bottles… everything we can lay our hands on! We then throw these into a large cauldron (full of magic medicine) leave it to simmer, and voila… Simsalabim!”

C2 Radio Cymru presenter, Lisa Gwilym, said, “After Jig-Cal’s sweeping success we have been eagerly awaiting Simsalabim! With Osh and Mei’s usual catchy compositions, great musicianship, and superb production that adds to the unique Sibrydion sound, I’m sure it will be one of 2007 best albums, by one of Wales’ favourite bands.” The title of the album, Simsalabim, is a magic word that has been used by the band for years. By drawing inspiration from Uri Gagarin, sinners, Syd Barret and Brazilian bands, amongst others, Simsalabim presents eleven Welsh songs in a variety of styles performed and recorded in the unique Sibrydion style.

The album was recorded at Stiwdio Nen and produced by Osh and Mei Gwynedd. It was mixed by Cian Ciaran, of SFA and Acid Casuals, and Sibrydion at the Pleasure Fox Studio in Cardiff Bay. The band has already attracted well deserved attention. JigCal won the Best Album in the 2006 BBC RAP Awards, and S4Cs Bandit chose ‘Dafad Ddu’ as the signature tune for their programme. They have already toured across Wales and Ireland and Sibrydion was the Main act at the 2006 National Eisteddfod.

Tracks -

1: Naw Bywyd

2: Coelio'r Clwydda

3: Gwyn dy Fyd

4: Simsalabim

5: Diasbedain

6: Madame Guillotine

7: Clywch! Clywch!

8: Gweld y Goleuni

9: Twll y Mwg

10: Mynd a Dod

11: Pam Fod Adar yn Symud i Fyw?

 

 

Wedi llwyddiant aruthrol JigCal, mae’r albym hwn yn nodi cam newydd cyffrous yng ngyrfa un o hoff fandiau Cymru. Wedi’i bennu fel un o brif albymau 2007, mae’r Sibrydion wedi datblygu a thyfu ers rhyddhad yr albym gyntaf, JigCal, yn 2005.

Bellach mae Dafydd Nant wedi ymuno fel drymiwr newydd y band ac mae Osian Gwynedd wedi symud i’r allweddellau. Dywedodd Osian, “Bydd hi’n haws ail-greu’r swn yn fyw rwan. Mae swn y band wedi datblygu ac rydyn ni’n defnyddio mwy o offerynnau bach gwahanol gan gynnwys cavaco (tebyg i’r eukalele), melodicas (tebyg i’r acordian a’r harmonia), ffliwtiau, clychau, poteli cwrw...bob dim! Yna, ni’n lluchio’r rhain i mewn i grochan mawr (sy’n cynnwys moddion hud), gadael iddo fudferwi, a voila...Simsalabim!”

Dywedodd Lisa Gwilym, cyflwynydd C2 Radio Cymru, “Ar ôl llwyddiant ysgubol Jig-Cal, 'da ni wedi bod yn disgwyl yn eiddgar am Simsalabim! Hefo Osh a Mei yn sgwennu caneuon arbennig o 'catchy' fel arfer, y chwarae dynn, a'r cynhyrchu'n ychwanegu i swn unigryw’r Sibrydion, mi fydd hi'n sicr o fod yn un o albyms gorau 2007, gan un o fandiau gora Cymru.”

Mae teitl yr albym, Simsalabim, yn air hud sydd wedi cael ei ddefnyddio gan y band ers blynyddoedd. Gydag ysbrydoliaeth gan Uri Gagarin, pechaduriaid, Syd Barret a bandiau o Frasil ymysg eraill, mae Simsalabim yn cyflwyno unarddeg cân yn “iaith y nefoedd” mewn amryw o steiliau gwahanol wedi’u chwarae yn arddull unigryw’r band. Cafodd yr albwm ei recordio yn Stiwdio Nen a’i gynhyrchu gan Osh a Mei Gwynedd. Cymysgwyd yr LP gan Cian Ciaran (SFA ac Acid Casuals) a Sibrydion yn Stiwdio Pleasure Foxxx ym Mae Caerdydd. Mae’r band eisoes wedi ennill clod haeddiannol. Enillodd JigCal albym orau 2006 yng Ngwobrau RAP BBC Radio Cymru, a dewisodd Bandit eu can ‘Dafad Ddu’ fel trac teitl y rhaglen. Maent eisoes wedi gwneud teithiau o gwmpas Cymru ac Iwerddon a Sibrydion oedd prif fand Maes B Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 2006.

Traciau -

1: Naw Bywyd

2: Coelio'r Clwydda

3: Gwyn dy Fyd

4: Simsalabim

5: Diasbedain

6: Madame Guillotine

7: Clywch! Clywch!

8: Gweld y Goleuni

9: Twll y Mwg

10: Mynd a Dod

11: Pam Fod Adar yn Symud i Fyw?

£4.99 -



Code(s)Rhifnod: 5055162140021
COPA CD002

You may also like .....Falle hoffech chi .....