Item added to your cart:Wedi ei roi yn eich basged:
Items in your cartNwyddau yn eich basged
TotalCyfanswm: GBP
Tracks -
01. Peint Sa’n Dda
02. Rhy Hen i Farw’n Ifanc
03. Mona
04. Dwi’n ifanc dyna pam
05. Mesen Fach
06. Gwnewch Bopeth yn Gymraeg
07. Ffonia fi’n ôl
08. Ti yw y dewra’n y byd (Cân Sian)
09. Ar gyfer heddiw’r bore
10. Cân i Mel.
Mae taith yr albwm newydd, fel nifer o recordiau dros y cyfnod diwethaf wedi bod yn llwybr troellog iawn. Ers rhyddhau'r record hir ddiwethaf - ‘O Nunlla’ yn 2018, mae’r band wedi rhyddhau dwy sengl. Yn gyntaf fe ryddhawyd Mesen Fach yn 2019 i ddathlu dyfodiad Tudur Huws Jones i’r band. Yna daeth cofid -19 ac yn y bwlch byr rhwng cyfnodau clo fe lwyddwyd i ryddhau ‘Ar gyfer heddiw’r bore’ yn 2020. Ond roedd llawer iawn o ddeunydd arall yn cael ei baratoi, gyda’r band yn cysylltu dros y we ac yn anfon ‘demos’ i’w gilydd.
Erbyn hyn mae’r ddwy sengl ddigidol yna yn cael ei ryddhau ar CD am y tro cyntaf, ochr yn ochr â 8 cân newydd sbon. “Mae wedi bod yn frwydr cael hwn i’r lan” meddai Phil. “Ychydig iawn sydd wedi recordio gyda ni i gyd yn y stiwdio'r un pryd, ac roedd y record hir ddiwethaf bron yn hollol ‘fyw’. Ond mae yna ddatblygiad mawr wedi bod yn sŵn y band a chyfraniad Tudur fel cyfansoddwr yn un werthfawr iawn i ni.”
Daw geiriau un o’r caneuon gan y Prifardd Meirion MacIntyre Huws - ‘Dwi’n ifanc dyna pam’ tra bod y geiriau ar gyfer ‘Gwnewch Bopeth yn Gymraeg’ yn un o gerddi Mynyddog o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’r ysbrydoliaeth ar gyfer caneuon gan Phil yn dod o rywle’n agosach i’w cynefin ac mae Cân i Mel yn esiampl arall o hwnnw. Yn deyrnged arall i un o gymeriadau fwyaf Dyffryn Nantlle.
Traciau -
01. Peint Sa’n Dda
02. Rhy Hen i Farw’n Ifanc
03. Mona
04. Dwi’n ifanc dyna pam
05. Mesen Fach
06. Gwnewch Bopeth yn Gymraeg
07. Ffonia fi’n ôl
08. Ti yw y dewra’n y byd (Cân Sian)
09. Ar gyfer heddiw’r bore
10. Cân i Mel.