Item added to your cart:Wedi ei roi yn eich basged:
Items in your cartNwyddau yn eich basged
TotalCyfanswm: GBP
Tracks -
01. Mwncwns Abertawe
02. Meddwl ar Goll
03. Deio i Dywyn
04. Lle Wyt Ti
05. Lladron.
Patrobas, y grŵp gwerin fodern o Ben Llŷn am y tro cyntaf ar label Rasal. Mae’r grŵp Patrobas wedi bod yn cyffroi clustiau ers cwpwl o flynyddoedd bellach ac yn diddanu cynulleidfaoedd led led Cymru.
Mae sŵn y grŵp yn un eithaf unigryw – mae’r dylanwadau gwerin yn amlwg, ond wedi’u plethu gyda sŵn roc sy’n creu potes diddorol gyda digon o fynd i’r gerddoriaeth. Dywedodd Wil Chidley “Dewisom yr enw ‘Dwyn y Dail’ am ei fod yn rhan o linell yng nghytgan y gân olaf ar yr EP – ‘Lladron’. Rheswm arall oedd oherwydd ei fod yn cael ei rhyddhau yn nhymor yr Hydref, sydd yn addas i’r cysylltiad â dail.” Recordiwyd yr EP yn Stiwdio Sain, Llandwrog a’r cynhyrchydd oedd Aled Hughes (Cowbois Rhos Botwnnog).
Traciau -
01. Mwncwns Abertawe
02. Meddwl ar Goll
03. Deio i Dywyn
04. Lle Wyt Ti
05. Lladron.