Mary Hopkin, The Early RecordingsMary Hopkin, Y Caneuon Cynnar

This collection of the first recordings made by the great Welsh singer Mary Hopkin is a treasure indeed. She emerged during the late 60's as a Pontardawe schoolgirl with a crystal voice and natural talent. To the accompaniment of her own guitar, and with Welsh words written for her by one of her school-teachers, she breathed new life into familiar songs and stamped them with her own unique style.

From appearances on BBC Wales television, she soon found herself in the studio recording these songs for the Pontardawe-based company Cambrian. Her fame spread with ease, and her voice captured the hears of no less than the Beatles, which led to recording sessions at the famous Abbey Road studios, and the world-wide hit "Those were the days". But it is on these early recordings that the true voice of Mary Hopkin can be heard in its natural glory, a voice unrivalled in its effortless beauty.

Tracks -

1: Tro, Tro, Tro

2: Tami

3: Yn y Bore

4: Gwrandewch ar y Moroedd

5: Pleserau Serch

6: Draw Dros y Moroedd

7: Aderyn Llwyd

8: Y Blodyn Gwyn

9: Rhywbeth Syml

10: Tyrd yn Ôl

11: Yfory.

 

 

Yn niwedd y chwedegau, daeth llais merch ifanc o Bontardawe i gyfareddu'r Gymru Gymraeg; ei henw oedd Mary Hopkin. O'i ymddangosiad cyntaf ar deledu'r BBC, doedd dim amheuaeth ynglyn a'i dawn i droi cân gyfarwydd yn brofiad arbennig. Llais clir fel y grisial, arddull cwbl gartrefol a wyneb fel angel! Does ryfedd yn y byd na fu Mary Hopkin yn hir cyn denu sylw ymhell y tu hwnt i Gymru, ac iddi gael ei hun yng nghwmni neb llai na'r "Beatles" yn stiwdio Abbey Road. A chyn pen dim, roedd ei recordiad enwog o "Those were the days" ar frig y siartiau, ac i'w chlywed ar draws y byd. Ond gallwn ymfalchïo yn y ffaith mai Cymraes yw Mary, ac yma yng Nghymru y datblygodd ei chrefft fel cantores, ac yma yng Nghymru y recordiodd ei recordiau cyntaf, a hynny yn Gymraeg.

Clywir ar y casgliad yma un-ar-ddeg o'r caneuon a recordiodd ar label Cambrian yn niwedd y 60au a dechrau'r 70au, y rhan fwyaf ohonynt i'w chyfeiliant ei hun ar y gitar, ac un yn ddeuawg gydag Edward Morus Jones. Does dim dwywaith mai yn y recordiadau cyntaf hyn y clywir llais di-gymar Mary Hopkin ar ei orau a'i fwyaf naturiol. Casgliad i'w drysori yng ngwir ystyr y gair!

Traciau -

1: Tro, Tro, Tro

2: Tami

3: Yn y Bore

4: Gwrandewch ar y Moroedd

5: Pleserau Serch

6: Draw Dros y Moroedd

7: Aderyn Llwyd

8: Y Blodyn Gwyn

9: Rhywbeth Syml

10: Tyrd yn Ôl

11: Yfory.

 

£7.99 -



Code(s)Rhifnod: 5016886215129
SAIN SCD2151

You may also like .....Falle hoffech chi .....