Hogia'r Wyddfa, Pigion Disglair

The second volume of their most popular songs. “Hogia’r Wyddfa” means “The Snowdon Lads”, and is the name on the most successful close-harmony group ever to record in Welsh.

They have taken their music to all corners of the earth, and still pack them in, though their public concerts are now more rare events. This is a collection of some of the best tracks they recorded between 1973 and 1979, the golden era of popular Welsh recording, together with a more recent track from 2001. The pianist heard on all the tracks but the last one is Richard Morris, whose inimitable style helped create the unique Hogia’r Wyddfa sound, and this selection is dedicated to his memory.

Tracks -

01 - Chwarel Dinorwig

02 - Ofer chwilio

03 - Gweddi plentyn

04 - Aberdaron

05 - Doedd dim ar ôl

06 - Gwyn

07 - Pont yr Abar

08 - Y ferch ar y cei yn Rio

09 - Cofio

10 - Eifionydd

11 - Draw mae'r llais yn galw

12 - Lisa lân

13 - Pe bawn i

14 - Llongau Caernarfon

15 - Yr eneth glaf

16 - Clychau'r gog

17 - Cerdd yr hen chwarelwr

18 - Amser noswyl

19 - Tymhorau

20 - Rhaid i ni ddathlu.

 

 

Ail gasgliad o ganeuon enwocaf Hogia’r Wyddfa, y triawd lleisiol nad oes pall ar eu poblogrwydd. Mae’r cyfan wedi ei ddweud, ac mae’n wir bob gair! Ond gan fod cymaint o amser ers inni gael casgliad o ffefrynnau’r Hogia, gwyddom y bydd croeso gwresog i’r casgliad hwn o’u caneuon gorau.

Roedd y 70au yn gyfnod hynod o gyffrous yn y byd recordio Cymraeg, a llawer o’r cyffro a’r creadigrwydd yn troi o gwmpas beudy Gwernafalau, Llandwrog, beudy a wedd-newidiwyd yn stiwdio. Yno y bu Arwel, Elwyn, Myrddin, Vivian a Dic yn gweu eu harmonïau o gwmpas rhai o eiriau enwocaf ein beirdd, ac yn cyflwyno inni record ar ôl record hir o ganeuon cofiadwy. Ychwanegwyd at y rhain “Rhaid inni Ddathlu” oddi ar yr albym o’r un enw a gyhoeddwyd yn 2001, gydag artistri Annette yn cymryd lle Richard Morris ar y piano. A dyma 20 trac o’r oes aur i ddathlu’r ffaith fod yr hogia’n dal i ganu, ac yn dal i beri pleser i Gymry ac eraill led-led y byd. Fe’u cyhoeddir fel teyrnged i Richard Morris, a gyfrannodd gymaint i greu SAIN unigryw yr Hogia.

Traciau -

01 - Chwarel Dinorwig

02 - Ofer chwilio

03 - Gweddi plentyn

04 - Aberdaron

05 - Doedd dim ar ôl

06 - Gwyn

07 - Pont yr Abar

08 - Y ferch ar y cei yn Rio

09 - Cofio

10 - Eifionydd

11 - Draw mae'r llais yn galw

12 - Lisa lân

13 - Pe bawn i

14 - Llongau Caernarfon

15 - Yr eneth glaf

16 - Clychau'r gog

17 - Cerdd yr hen chwarelwr

18 - Amser noswyl

19 - Tymhorau

20 - Rhaid i ni ddathlu.

£5.99 -



Code(s)Rhifnod: 5016886256924
SAIN SCD2569

You may also like .....Falle hoffech chi .....