Gwenan Gibbard, Cerdd Dannau

Cerdd dant is essentially the unique and ancient art of singing poetry to harp accompaniment. Its origins date back to the earliest centuries, when the harper would declaim his poetry to his own accompaniment, in praise of his chief or prince. In Wales there has always been a special relationship between music and poetry: there are many references to singing poetry to the accompaniment of the harp in Welsh manuscripts from the middle ages onwards, and this tradition continues to this day.

Three different elements come together in cerdd dant: the chosen harp melody, which can be traditional or newly composed; the poetry being sung, which can be strict metre poetry (based on the age old cynghanedd, where alliteration and rhyme play an integral part), free poetry, or, more recently, prose; and, thirdly, the counter-melody on which the words are sung. There are many rules and regulations as to how the words should be set to the music, but basically the harp melody and the singer’s melody should be in counterpoint, and the main accents of the poetry should fall on the main accents of the music. The words are always given the greatest priority and the mood of the poetry must be reflected in the chosen harp melody and also in the singer’s counter-melody and style of singing. In days gone by many cerdd dant singers would accompany their own singing, and here on this album most of the pieces are performed self-accompanied.

As with many Welsh singers, cerdd dant has been an integral part of my upbringing. Personally I consider myself to have been very fortunate to have received a grounding in this art from two of the most prominent advocates of this tradition, namely Nan Elis and Alwena Roberts. By now, cerdd dant seems to be an integral part of me, and if I were ever to be far from home in some distant land, then it would be the sound of cerdd dant more than anything else which would be certain to bring on a serious bout of hiraeth (longing)! There are many different styles of cerdd dant singing, depending on the words which are sung.

Some of the tracks on this album take a look back at the more folk orientated cerdd dant tradition of years ago and include some poetic measures which are rarely sung today. Other tracks are more experimental and are based on cerdd dant but include some contemporary features and variations in form and structure. Cerdd dant is still very much a living and popular tradition in Wales today, and is constantly evolving. A hugely successful cerdd dant festival is held in Wales every year and new generations continue to set and sing words to music in this unique way. Gwenan Gibbard, 2013

Tracks -

1: Nei Di Ganu ’Nghân?

2: Noson Aflawen (With Cerys Matthews)

3: Pen Draw Llŷn

4: Calon Drom

5: A Glywi Di?

6: Nid yw Cariad yn Ddall

7: Glan Môr Heli

8: Rowndio’r Horn (With Meinir Gwilym)

9: Mae’r Ddaear yn Glasu

10: Bro

11: Traeth Lafan / Adlais Nia / Pen Rhaw

12: Arglwydd Iesu, Dysg im Gerdded

13: Dau a Dwy

14: Rhwng Pen y Cei a Phen yr Allt.

 

 

Fel yn hanes sawl Cymro a Chymraes arall, mae cerdd dant wedi bod yn rhan o fy mywyd i ers dyddiau fy mhlentyndod. Bûm yn ffodus iawn i gael sylfaen a chefnogaeth amrhisiadwy yn y maes gan ddwy o brif gynheiliaid y traddodiad, sef Nan Elis ac Alwena Roberts. Bellach, teimlaf fod y grefft yn rhan annatod ohonof rywsut, a phe byddwn rhyw dro ymhell oddi cartref mewn gwlad bell, o bob dim, sain cerdd dant, yn sicr, fyddai’n codi’r hiraeth mwyaf arna’i!

Cefais fwynhad mawr yn pori yn ddiweddar drwy hen lyfrau megis Hanes a Henafiaeth Canu Gyda’r Tannau (Idris Fychan, 1885), Y Tant Aur (Dafydd Roberts, Telynor Mawddwy, 1911 ac 1916), ac ysgrifau rhai o hoelion wyth y byd cerdd dant yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif, rhai fel Dewi Mai o Feirion a J E Jones, Maentwrog. Yr hyn sy’n dod i’r amlwg dro ar ôl tro yw fod cerdd dant yn draddodiad byw sy’n newid o ran arddull a chynnwys cerddorol a geiriol o un degawd i’r llall.

Rhoddais gynnig ar geisio adlewyrchu ychydig o’r presennol a’r gorffennol yn y casgliad hwn, gan fwynhau’n arw cael mynd yn ôl at rai o’r hen alawon telyn traddodiadol, at arddull fwy gwerinol y gorffennol ac at rai o’r hen fesurau oedd yn boblogaidd iawn ar un cyfnod – mesurau fel calon drom a’r tri thrawiad. Yn ogystal mae yma ddarnau ar fesurau sy’n dal i gael eu harfer yn gyffredin heddiw, fel y cywydd a’r englyn a darnau hefyd ar groes acen.

Ar y llaw arall, mentrais gynnwys darnau sy’n fwy arbrofol, yn cymryd rhyddid o ran strwythr a ffurf, a hefyd un neu ddwy o ganeuon sy’n seiliedig ar gerdd dant ond sydd wedi crwydro rhyw fymryn i dir gwahanol. Ar bob achlysur ceisiais sicrhau fy mod yn dangos parch i’r geiriau uwchlaw popeth arall. Mae pob un o’r darnau, ac eithrio Noson Aflawen, A Glywi Di?, Mae’r Ddaear yn Glasu a Dau a Dwy, wedi eu perfformio yn hunan-gyfeiliant. Diolch am wrando, a hir oes i gerdd dant! Gwenan Gibbard, 2013.

Traciau -

1: Nei Di Ganu ’Nghân?

2: Noson Aflawen (Gyda Cerys Matthews)

3: Pen Draw Llŷn

4: Calon Drom

5: A Glywi Di?

6: Nid yw Cariad yn Ddall

7: Glan Môr Heli

8: Rowndio’r Horn (Gyda Meinir Gwilym)

9: Mae’r Ddaear yn Glasu

10: Bro

11: Traeth Lafan / Adlais Nia / Pen Rhaw

12: Arglwydd Iesu, Dysg im Gerdded

13: Dau a Dwy

14: Rhwng Pen y Cei a Phen yr Allt.

£12.98 -



Code(s)Rhifnod: 5016886270227
SAIN SCD2702

You may also like .....Falle hoffech chi .....