Gwenan Gibbard, Hen Ganeuon Newydd

Following the success of ‘Cerdd Dannau’, an album which breathed new life into the ancient tradition of ‘cerdd dant’, Hen Ganeuon Newydd (New Old Songs) features the folk-songs of the predominantly Welsh speaking areas of the Llŷn Peninsula and neighbouring Eifionydd, north-west Wales – Gwenan’s home area. A reflection of a rural and simple way of life at the end of the 19th century and the beginning of the 20th century, the songs stem from close-knit communities and speak of local characters and happenings, love and loss, bringing together the traditions of the land and the sea.

A century or more ago Welsh would be the only language of the majority of the people of Llŷn and Eifionydd and singing and writing poetry would be a very popular pastime. Whether it would be in the stable-loft, the cobbler’s village workshop, the quarrymen’s cabin at lunchtime or at home by the hearth, gathering together to socialise and to share songs, stories, rhymes and verses would be an integral part of everyday life. Today, these songs give us a glimpse of this area’s unique history and traditions.

The album was co-produced by Aled Wyn Hughes and Gwenan Gibbard and with musical contributions by Gwilym Bowen Rhys (Guitar, Bouzouki and Mandolin), Patrick Rimes (Fiddle and Viola) and Aled Wyn Hughes (Bass), ;Hen Ganeuon Newydd' is a contemporary celebration of the stories of the past - a true representation of a nearly forgotten culture.

Tracks -

01. Meibion a Merched

02. Ffarwel i Bencaenewydd

03. Y Drydedd Waith yw'r Goel

04. Y Gwcw Fach Lwydlas

05. Daw Long

06. Sgert Gwta Nain

07. Cariad y Garddwr

08. Trafnidiaeth yn Llyn

09. Y Morwr Mwyn

10. Y Gwcw Ryfel

11. Rhigymau

12. Anni Bach Rwy'n Mynd i Ffwrdd.

 

 

 

Dyma bedwerydd albym y cerddor gwerin o Bwllheli, albym sy’n gasgliad o ganeuon gwerinol cefn gwlad Llŷn ac Eifionydd, lle mae diwylliant ac arferion y tir a’r môr yn cyfarfod ac yn ymdoddi i’w gilydd. 

Ganrif a mwy yn ôl byddai mwyafrif helaeth trigolion yr ardal hon yn uniaith Gymraeg a chanu a barddoni yn weithgarwch ac yn adloniant cymdeithasol mewn byd lle ’roedd pwyslais ar ddod ynghŷd a chadw’r cwlwm hwnnw rhwng pobl â’i gilydd. ’Roedd yr arfer o fynegi holl droeon bywyd drwy ddull cerdd a chân yn ffordd o fyw. Dyma gyflwyno rhai o’r caneuon hynny (gydag un eithriad o gasgliad Caradog Pugh o Sir Drefaldwyn, ardal wledig a’i chymuned yn debyg iawn i un Llŷn ac Eifionydd) - caneuon serch a hiraeth, twyll a cholled, caneuon yn llawn hwyl a diddanwch a chaneuon yn llawn hanes lleol a’r cyfan yn ddrych i gymdeithas glos cefn gwlad yr oes a fu.
 

Gyda chyfraniadau cerddorol gan y dihafal Gwilym Bowen Rhys (Gitâr, Bouzouki a mandolin), Patrick Rimes (Ffidil a Feiola) ac Aled Wyn Hughes (Bas) ac wedi ei gyd-gynhyrchu gan Aled a Gwenan, dyma albym yn llawn swyn y dyddiau a fu mewn gwedd gyfoes. Daw’r gorffennol yn fyw a sawl cân anghofiedig i olau dydd unwaith eto ar yr albym yma o ganeuon pobl ardal Llŷn ac Eifionydd. .

Traciau -

01. Meibion a Merched

02. Ffarwel i Bencaenewydd

03. Y Drydedd Waith yw'r Goel

04. Y Gwcw Fach Lwydlas

05. Daw Long

06. Sgert Gwta Nain

07. Cariad y Garddwr

08. Trafnidiaeth yn Llyn

09. Y Morwr Mwyn

10. Y Gwcw Ryfel

11. Rhigymau

12. Anni Bach Rwy'n Mynd i Ffwrdd.

£12.98 -



Code(s)Rhifnod: 5016886285023
SAIN SCD2850

You may also like .....Falle hoffech chi .....