Wedi ei roi yn eich basged:
Nwyddau yn eich basged
Cyfanswm: GBP
Y cawr, y gŵr, y chwedl, yr arwr…
ORIG – Dathliad arall o’i fywyd, ond y tro hwn… drwy gyfrwng albwm cysyniadol gan Gai Toms.
Does dim cyfaddawdu i un arddull cerddorol ar yr albwm yma, roedd bywyd Orig yn rhy liwgar o lawer i’r fath beth. Ond, mae offerynnau megis yr acordion, ffidil, trwmped, trombôn a’r sax yn llwyddo i roi’r ffync, yn ogystal â‘r ffair, i’r holl beth. Mae blasau poeth ‘Mexicana’ Cymreig yma ac acw hefyd, os ydych ddigon craff eich clust. Albwm cysyniadol gwych sy’n ddathliad sonig haeddiannol o fywyd eicon cenedlaethol.
“Fysa Dad mor falch, dyn geirau oedd o…” Tara Bethan.
Roedd Orig wastad yn dyfynnu beirdd, yn enwedig Cynan fardd – roedd wrth ei fodd efo geiriau. Mae Gai Toms wedi llwyddo i ddod ag Orig yn fyw unwaith eto drwy ddefnydd o eiriau bachog a cherddoriaeth rymus.
‘Yn wyllt ac yn war…’ Myrddin ap Dafydd.
Traciau -
01. Palmant Aur y Migneint
02. 2449290 Williams O
03. Reu Reu Reu / Tarw Nefyn
04.Bwth Mickey Kiely
05. Y Cylch Sgwâr
06. Marwnad y Pehalwan
07. Bandits
08. Merched Marged Ifan
09. Calabar
10. Dy Wên
11. El Bandito.