Fflur Dafydd a'r Barf, Byd Bach

Yn wahanol i’r ddwy albym gyntaf, mae “Byd Bach” yn albym cysyniadol sydd yn ymwneud â lleoliadau gwahanol yng Nghymru, ac sy’n cludo’r gwrandäwr ar daith o gwmpas y lleoliadau hynny sydd wedi dylanwadu ar fywyd a cherddoriaeth Fflur. Mae’r amrywiaeth o leoliadau yn eang dros ben, yn amrywio o lefydd arfordirol braf fel Aberaeron a Phorthgain, i dywyllwch dinesig Caerdydd, ac yna ar hyd lwybr cerddorol yr A470 at Ynys Môn a Mynydd Llandygai.

“Dwi wedi byw mewn nifer o lefydd gwahanol yng Nghymru,” meddai Fflur. “Ac er ein bod weithiau’n gweld y ffaith ein bod yn byw mewn “Byd Bach” yn rhywbeth negyddol, ry’n ni’n lwcus, mewn ffordd, fod ganddon ni’r cyfle i ddod i nabod ein gwlad mor dda, ac i weld pob cornel ohoni, yn wahanol i bobl sy’n byw mewn gwledydd mawr. Dwi wastad yn teimlo ‘mod i’n berson fwy crwn o fod wedi byw mewn gymaint o lefydd, ac mae’r albym yn rhyw fath o daith emosiynol i mi trwy’r ardaloedd gwahanol sydd wedi fy ffurfio i fel person.”

Wrth deithio o fan i fan trwy gyfrwng y caneuon, mae pob un lleoliad yn hawlio ei steil gerddorol unigryw ei hun, ac yn brawf o’r cydweithio egniol, creadigol sydd rhwng Fflur a’i band gwych, “Y Barf.” Mae’r geiriau hefyd yn llawn hiwmor tywyll, swreal, ac yn llawn cymeriadau a chyfeiriadau difyr, gyda’r gân “Pobol Bach” er engraifft, yn ymateb chwareus i gân Randy Newman, “Short People.” Mae’r caneuon yn sicr yn dangos crefft a gweledigaeth hynod Fflur fel artist, ac yn brawf o’i chyfraniad unigryw at gerddoriaeth gyfoes Gymraeg.

Traciau -

01. Pobol Bach

02. A47dim

03. Caerdydd

04. Penrhiwllan

05. Aberaeron

06. Byd Bach

07. Porthgain

08. Y Llwybrau

09. Abercuawg

10. Yr Ymylon

£4.99 -



Rhifnod: 5055162100315
RASAL CD031

Falle hoffech chi .....