Item added to your cart:Wedi ei roi yn eich basged:
Items in your cartNwyddau yn eich basged
TotalCyfanswm: GBP
Born into a musical family and raised near Meifod, Montgomeryshire, their father a member of legendary folk group Plethyn and their mother also a strong musical influence, both sisters fondly remember that singing with their parents in the car and in the kitchen, in four part harmony, was a big part of their childhood.
The EP includes songs that they have been performing over the last year and songs which are deeply connected to rural and local folk traditions, such as the EP's title track, 'Hela'r Dryw' (Hunting the Wen), an old folk song, rooted in an ancient Celtic tradition which was a midwinter custom, a song which was a catalyst for connecting both sisters more deeply to place, history and their local community in Montgomeryshire. The 'wren boys' would hunt a wren and carry it from house to house, singing and playing music while wishing good luck to all in the neighbourhood in exchange for food and drink. 'Y Gog Lwydlas' is one of many songs in the Welsh tradition celebrating the appearance of the cuckoo in spring, this version with subtle instrumental links between the verses standing out as yet again another variant of this body of cuckoo songs, while 'Cariad Cyntaf' is a beloved and haunting Welsh traditional love song, full of unanswered questions. The last track 'Dod Nôl at fy Nghoed' is a dedication to the feeling of home and being inter-connected with nature and the special energy that woodlands hold, and how it can make us all feel grounded and secure. The improvised feel and nature of this track is a reminder of Elin and Carys' live performances, their playing deeply locked in with each other.
"The whole process of what we're doing as Elin and Carys feels like coming home", says the sisters, "...playing Welsh folk music together feels like we've found something we were always meant to come back to."
With guest musicians Freddie Willetts on double bass, bodhran, electric guitar and whistles, Awen Blandford on cello, Gwilym Bowen Rhys on fiddle and viola and produced by Aled Wyn Hughes and recorded at Stiwdio Sain, this EP is a bold and fresh contribution to the Welsh music scene, and EP brimming with and alternative ambience yet sounding so comforting and homely at the same time.
Tracks
01. Hela’r Dryw
02. Y Gog Lwydlas
03. Cariad Cyntaf
04. Dod ’Nôl at fy Nghoed
Wedi eu magu ar aelwyd gerddorol ger Meifod yn Sir Drefaldwyn, eu tad yn aelod o'r grŵp gwerin Plethyn a'u mam hefyd yn ddylanwad cerddorol, mae gan y ddwy atgofion braf am ganu mewn harmoni gyda'u rhieni yn y car a'r gegin pan yn blant.
Mae'r EP yn cynnwys caneuon ac alawon sy'n rhan o'u set byw ers rhai misoedd ac yn cynnwys caneuon sydd wedi eu cysylltu'n gryf gyda hen arferion gwerin lleol, fel y trac cyntaf, 'Hela'r Dryw', cân sy'n perthyn i'r arferiad Celtaidd hynafol o hela'r dryw bach yng nghyfnod y Calan a mynd o gwmpas y tai a'r tafarndai lleol gan ddymuno lwc dda i'r gymdogaeth yn gyfnewid am dâl, bwyd a diod. Mae 'Y Gog Lwydlas' yn un o nifer yn y traddodiad Cymreig sy'n llawenhau yn nyfodiad y gog gyda'r gwanwyn gyda chyffyrddiadau offerynnol hudolus yn cysylltu'r penillion tra bod 'Cariad Cyntaf' yn gri o'r galon gyda seiniau arbrofol ar y bîb a'r gitâr yn rhoi gwedd newydd ar yr hen glasur o blith ein caneuon serch traddodiadol. Cynrychioli'r elfen fyrfyfyr o berfformiadau Elin a Carys wna trac olaf yr EP, 'Dod Nôl at fy Nghoed'. Daeth yr alaw pan oedd y ddwy yn y gegin un diwrnod wedi ymgolli yn y gerddoriaeth a'r olygfa drwy'r ffenestr yn rhoi'r awen. Ar y llwyfan o flaen cynulleidfa fyw dibynna'r ddwy yn llwyr ar ei gilydd, gyda'r naill yn ymddiried yn y llall gan ddilyn y naws a'r ddeinameg.
Meddai'r ddwy: "Mae'r holl broses o beth ydan ni'n ei wneud fel Elin a Carys yn teimlo fel dod adref. Mae chwarae cerddoriaeth werin Gymreig gyda'n gilydd yn teimlo fel ein bod ni wedi darganfod rhywbeth yr oedden ni wastad i fod i ddod nôl ato..."
Gyda chwmni Freddie Willetts ar y bas dwbl, bodhran, gitâr drydan a phîb, Awen Blandford ar y cello, Gwilym Bowen Rhys ar y ffidil a'r feiola ac Aled Wyn Hughes yn cynhyrchu, ac wedi ei recordio yn Stiwdio Sain, dyma EP fydd yn gyfraniad newydd a mentrus i'r sin werin yng Nghymru, EP sy'n disgleirio o seiniau ifanc ac unigryw gan gyfleu teimlad a naws mor gartrefol ar yr un pryd.
Traciau -