CF1

In 2002 a new youth group was founded in Cardiff, namely Aelwyd CF1. The aspiration was to give young people the opportunity to socialise and perform through the medium of Welsh. That aspiration was realised, and by now the Aelwyd attracts more than a 100 members, all of whom share a passion for singing, and with that, a choir was formed, Côr Aelwyd CF1.

During the first three years, the choir has spread its wings, and has performed in numerous concerts and competitions. Some of the highlights were successes in choral competitions in the National Urdd Eisteddfodau, winning the youth choir competition in the National Eisteddfod in 2004 and 2005, being honoured with the Choir of the Festival award in the 2005 National Eisteddfod, and winning the prestigious Youth Choir of Wales award in The Choir of Wales competition in 2005. The choir has also had some other fantastic opportunities such as singing in the opening concert at the Wales Millennium Centre, the opening concert of the Urdd Eisteddfod 2005, The Holocaust Memorial Event, performed in ‘Sgidie Bach i Ddawnsio’, the National Eisteddfod 2005 concert, and has sung the anthems at the Millennium Stadium before international matches.

Taking part in such a wide variety of activities and competitions has enabled the choir to develop its musical repertoire to the full. But Aelwyd CF1, however, is not just a choir. Members have achieved successes in fields such as folk dancing, recitation, acting and creative writing. In addition to this, socialising is a very important aspect, and trips to Rome and Dublin, as well as nights out in their home city, are amongst some of their best memories! Teir enthusiasm and joy of singing comes over loud and clear on their debut album.

Tracks -

01 - Ar lan y môr

02 - O-re-me

03 - Maent yn dywedyd

04 - Medli caneuon gospel

05 - Yr Arglwydd yw fy mugail

06 - Er mwyn yfory

07 - Bogoroditse Deo

08 - Gwyn ap Nudd

09 - Rho im Iesu

10 - Y deryn glas.

 

 

Yn 2002 sefydlwyd Aelwyd yr Urdd CF1 yng Nghaerdydd. Y gobaith oedd rhoi cyfle i bobl ifanc gymdeithasu a pherfformio drwy gyfrwng y Gymraeg. Erbyn hyn, mae dros 100 o aelodau’n perthyn i’r Aelwyd.

Un o brif ddiddordebau’r aelodau yw canu, a chyda hynny dyma ffurfio Côr. Yn ystod y tair blynedd diwethaf cynhaliwyd cyngherddau lu gan gystadlu’n gyson. Rhai o’r uchafbwyntiau oedd dod i’r brig yn Eisteddfodau’r Urdd, ennill Y Côr Ieuenctid yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2004 a 2005 ac ennill Côr yr Wyl yn Eisteddfod Eryri 2005, yn ogystal ag ennill gwobr Côr Ieuenctid Cymru yng Nghystadleuaeth Côr Cymru 2005. Cawsant hefyd gyfle i berfformio yn agoriad Canolfan y Mileniwm, Cyngerdd Agoriadol yr Urdd 2005, Cyngerdd Coffáu’r Holocaust a ‘Sgidie Bach i Ddawnsio’, sioe Eisteddfod Eryri. Yn achlysurol maent hefyd yn canu anthemau cenedlaethol yn Stadiwm y Mileniwm cyn gemau rhyngwladol. Mae’r cyfoeth yma o ddigwyddiadau a chystadlaethau wedi caniatáu i’r Aelwyd ifanc i ddatblygu ei repertoire cerddorol ac arbrofi â sawl math o ganu. Nid côr yn unig mo’r Aelwyd fodd bynnag. Cafwyd amryw o lwyddiannau eraill ym meysydd dawnsio gwerin, llefaru, actio ac ysgrifennu creadigol. Yn ogystal â hyn, mae’r elfen gymdeithasol yn bwysig iawn, gyda thripiau i Rufain a Dulyn, yn ogystal â nosweithiau lliwgar yn y ddinas fawr ymysg rhai o’r atgofion gorau. Gobaith y côr yw fod eu mwynhad nhw yn rhoi pleser i’w cynulleidfaoedd hefyd. Yn sicr, mae’r wefr a gânt wrth ganu i’w glywed yn glir yn y recordiad cyntaf hwn.

Traciau -

01 - Ar lan y môr

02 - O-re-me

03 - Maent yn dywedyd

04 - Medli caneuon gospel

05 - Yr Arglwydd yw fy mugail

06 - Er mwyn yfory

07 - Bogoroditse Deo

08 - Gwyn ap Nudd

09 - Rho im Iesu

10 - Y deryn glas.

£5.99 - £9.99



Code(s)Rhifnod: 5016886251820
SAIN SCD2518

You may also like .....Falle hoffech chi .....