Wedi ei roi yn eich basged:
Nwyddau yn eich basged
Cyfanswm: GBP
Casgliad cyntaf caneuon Robat Arwyn oedd un o recordiadau mwyaf llwyddiannus y degawd diwethaf, a bu galw mawr am ail gasgliad. Ond oedd yna ddigon o ganeuon i wneud un arall? Mae’r ateb i’w glywed yma – oedd, digon a mwy! Yn wir, o gywain drwy recordiau diweddar, testun syndod yw mor eang yw apêl a phoblogrwydd cyfansoddiadau’r cyfansoddwr o Ruthun a fagwyd yn Nyffryn Nantlle. Ac o wrando ar y casgliad newydd rhyfeddol hwn, daw dau reswm dros boblogrwydd caneuon Robat Arwyn i’r amlwg. Y rheswm cyntaf yw fod ei ganeuon yn apelio at unawdwyr, at ddeuawdau, at bartïon o bob math, ac at gorau mawr a bach, yn ogystal ag at offerynwyr, ac ar y casgliad hwn cawn glywed rhai o berfformwyr amlycaf Cymru, o Bryn Terfel a Chôr Seiriol i’r triawd yr oedd Arwyn ei hun yn aelod ohono, Trisgell. A’r ail reswm yw ei fod yn cyd-gyfansoddi gyda rhai o awduron geiriau gorau ein cyfnod; mae’r bartneriaeth gynhyrchiol rhwng Arwyn a Robin Llwyd ab Owain yn amlwg eto yn y casgliad hwn, ac hefyd y bartneriaeth rhyngddo â’r bartneriaeth arall honno a fu’n ysbrydoliaeth i sioeau Theatr Maldwyn a Meirion, Penri Roberts a’r diweddar Derec Williams. Yma hefyd fe glywn eiriau gan awduron sydd eisoes wedi amlygu eu hunain fel awduron nifer o’n clasuron poblogaidd diweddar: Eifion Lloyd Jones, Eleri Richards ac Enid Jones, heb anghofio’r cyfansoddwr ei hun, a bardd o safon John Morris-Jones. Alawon cofiadwy, perfformwyr disglair, ac hefyd un o’r elfennau prin hynny sy’n nodweddu gwaith pob gwir artist, sef didwylledd. Mwynhewch wledd arall o waith Robat Arwyn. Dafydd Iwan, Ebrill 2015.
Traciau -
01. Byw Fyddi Nant Gwrtheyrn (Aelwyd Bro Gwerfyl)
02. Paid (Trisgell)
03. Dim Ond Meirch y Môr (Nia Clwyd gyda Bois y Castell)
04. Seren y Gogledd (Bryn Terfel)
05. Braint (Haf Wyn gyda Côr Seiriol)
06. Ffydd, Gobaith Cariad (Côr Aelwyd Llangwm)
07. Un Enaid Bach (Piantel)
08. Y Freuddwyd Fawr (Huw Llywelyn gyda Côr Rhuthun)
09. Hen Gymraes (Leah Owen)
10. Dallt y Gêm (Geraint Roberts gyda Cwmni Theatr Meirion)
11. Mae’r Gân Yn Ein Huno (Rhys Meirion & Fflur Wyn)
12. Er Mwyn Yfory (Arfon Williams & Siwan Llynor gyda Cwmni Theatr Meirion)
13. Wrth Aros am Fy Haul (Llion Wyn gyda Côr Penyberth)
14. Derwen Dy Gariad (Rosalind a Myrddin)
15. Adre Nôl (Côr Teulu Caeronwy)
16. Gwell Byd a Ddaw (Trisgell)
17. ‘Run Fath â Ni (Cwmni Theatr Meirion)
18. Gyda Thi (Mari Wyn Williams a Huw Llywelyn)
19. Gogoniant a Nerth (John Ifor Jones gyda Côr Rhuthun).