Item added to your cart:Wedi ei roi yn eich basged:
Items in your cartNwyddau yn eich basged
TotalCyfanswm: GBP
Author: Rhianedd Jewell.
A powerful and emotional story about what might grow from an unexpected friendship. The novel was highly praised and came close to winning the Prose Medal at the National Eisteddfod at Rhondda Cynon Taf in 2024.
Awdur: Rhianedd Jewell.
Stori bŵerus a theimladwy am yr hyn a all dyfu o gyfeillgarwch annisgwyl. Daeth y nofel yn agos i'r brig yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024.
Cafodd Rhianedd ei magu yn Ystrad Mynach ger Caerffili. Astudiodd Ffrangeg ac Eidaleg ym Mhrifysgol Rhydychen cyn cwblhau doethuriaeth yno mewn Llenyddiaeth Eidaleg. Erbyn hyn mae hi’n gweithio fel Pennaeth Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Enillodd Fedal Dillwyn Cymdeithas Ddysgedig Cymru (y Celfyddydau Creadigol a’r Dyniaethau) yn 2018 am ei gwaith ym maes astudiaethau cyfieithu. Mae hi’n byw yn Aberystwyth gyda’i gŵr, Pete, a’u meibion, Heulyn ac Anian. Tempo yw ei nofel gyntaf.