Item added to your cart:Wedi ei roi yn eich basged:
Items in your cartNwyddau yn eich basged
TotalCyfanswm: GBP
Author: Alun Ffed Jones.
Awdur: Alun Ffed Jones.
Fel gwraig y Parchedig Gerallt Jones neu fam Huw Ceredig, Dafydd Iwan, Arthur Morus ac Alun Ffred yr oedd, ac y mae, llawer yn ei hadnabod a'i chofio ond yr oedd mwy i Elizabeth Jane Jones - Sis - na hynny. Ar ei charreg fedd mae'r geiriau 'Athrawes Cerdd a Llên' a cafodd fodd i fyw yn hyfforddi ac annog talentau ifanc ym Mrynaman, Llanuwchllyn, Gwyddgrug a Chaerwedros.
Ond ar hyd ei bywyd bu'n ysgrifennu; straeon byrion, ysgrifau a dyddiadur achlysurol wrth fagu'r plant. Yn y dyddiadur cawn gip ar feddyliau gwraig a mam ifanc yn y ddau ddegawd wedi'r Ail Ryfel Byd - ei hofnau, ei gobeithion a'i rhwystredigaethau. Detholiad sydd yma o weithiau amrywiol gwraig frwdfrydig a diwylliedig.