Item added to your cart:Wedi ei roi yn eich basged:
Items in your cartNwyddau yn eich basged
TotalCyfanswm: GBP
Author: Glyn Wise.
A self-help book that draws lessons from Biblical stories and characters that carry relevance to our lives today.
Awdur: Glyn Wise.
Llyfr 'self-help' sydd yn cynnig gwersi o'r Beibl. Llythyr cariad yw'r Beibl i ni gan Dduw, ac os nad ydych yn credu yn Nuw, wel, mae'n parhau i fod yn llyfr llawn gwybodaeth ar sut i fyw'r bywyd gorau. Mewn cyfnod ble mae hunan-les yn un o'r ffactorau pwysicaf mewn cymdeithas, mae awdur y llyfr hwn am i'r darllenydd edrych sut mae storïau a chymeriadau'r Beibl yn berthnasol i'n bywydau ni heddiw.
Daw Glyn Wise o Flaenau Ffestiniog yn wreiddiol a daeth i enwogrwydd yn 2006 fel un o' sêr y rhaglen reaelaeth Big Brother. Yna bu'n dilyn sawl trywydd gwahanol gan gynnwys cyfnod fel athro.
Wedi ei ysbrydoli gan yr egni a'r brwdfrydedd a welodd ymhlith Cristnogion yn Asia with deithio, fe deimlodd alwad i ddychwelyd i Gymru i wasanaethu'r eglwys. Mae bellach yn hyfforddi am yr Offeiriadaeth yn Yr Eglwys yng Nghymru.