Item added to your cart:Wedi ei roi yn eich basged:
Items in your cartNwyddau yn eich basged
TotalCyfanswm: GBP
Author: Siân James.
A record of Llanerfyl's Dwynwen Jones' family and historical journey.
Awdur: Siân James.
Cofnod o daith deuluol a hanesyddol Dwynwen Jones, Llanerfyl.
Cyflwyniad i Dwynwen ei hun gan Siân James:
– y cerddor, yr arbenigwr cerdd dant, y llenor, a'r gwarchodwr diwylliant a hanes, a fu’n gwbwl ganolog i ffyniant diwylliannol ardal Dyffryn Banw, gydol ei hoes. Anti Dwynwen oedd hi i mi – cyfnither gyfan i fy nhad, ac un o’r eneidiau serendipaidd hynny a groesodd fy llwybr ac a’m hysbrydolodd gydol fy mywyd.
Roedd y cwpwrdd yn storfa ryfeddol o gerddi, gosodiadau cerdd dant, cerddoriaeth a hanesion teulu a chymdeithasol – hwn oedd cist trysorau Dwynwen am bron i hanner canrif, yn cynnwys llawlyfrau a etifeddodd hithau gan aelodau hŷn y teulu. Gwnaeth Siân gasgliad o beth o’r deunydd ar gyfer Trac, y mudiad datblygu canu gwerin yn 2011. Heb os, mewn dyddiau cynharach, byddai Sain Ffagan neu yr hen Radio Cymru wedi creu cofnod manwl/rhaglenni ar sail y cynnwys. Mae’n gasgliad gwerin o bwys cenedlaethol.
Yn y gyfrol hon mae Sian yn dethol cynnwys y cwpwrdd a’i gyflwyno’n benodau penodol inni.