Item added to your cart:Wedi ei roi yn eich basged:
Items in your cartNwyddau yn eich basged
TotalCyfanswm: GBP
Author: Myrddin ap Dafydd.
A story set in Blaenau Ffestiniog during the Second World War. As bombs destroy Liverpool, families are separated and children are sent to rural areas in Wales for their safety.
Awdur: Myrddin ap Dafydd.
Mae'r stori hon wedi'i gosod ym Mlaenau Ffestiniog yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn Lerpwl, mae'r bomiau'n chwalu adeiladau a theuluoedd ac mae'n rhaid i'r plant adael am loches mewn ardaloedd mwy diogel.
Ymysg yr ifaciwîs mae Sargar, bachgen a ymfudodd gyda'i deulu o'r Punjab i ardal Lerpwl. Mae'n canfod yn fuan nad yw ardal y chwareli yn rhydd o effeithiau rhyfel chwaith. Nac yn rhydd o ragfarnau yn ei erbyn oherwydd lliw ei groen.
Ond nid plant yn unig sy'n cael eu cario i'w gwarchod i Ffestiniog. Pan ddaw rhai o drysorau Llundain i'w cadw yn un o'r chwareli, mae drysau hanes yn cael eu hailagor ...