Y Cysgod yn y Cof

Author: Bob Morris.

A novel full of tension, mystery and excitement, that moves between two periods - the present and the 1960s/70s. After surgery, Caerwyn has forgotten periods in his past but, with the help of his daughter, Heulwen, his memory returns step by step. During the process, Caerwyn has to relive his troubled past - the violence, guilt and heartbreak.


 

Awdur: Bob Morris.

Dyma nofel lawn tensiwn, dirgelwch a chyffro, sydd yn symud rhwng dau gyfnod - nawr a chyfnod y 1960au/1970au. Ar ôl llawdriniaeth, mae Caerwyn wedi anghofio cyfnod o'i orffennol ond daw'r atgofion yn ôl fesul dipyn gyda chymorth ei ferch, Heulwen. Ond wrth i'r darnau ddisgyn i'w lle, mae'n rhaid i Caerwyn ail fyw ei orffennol cythryblus - y trais, yr euogrwydd a'r tor calon.

 

Mae Bob Morris yn hanesydd, yn awdur ac yn ddarlithydd. Mudiadau protest gwerin yw un o'i brif ddiddordebau ers nifer o flynyddoedd, ac mae'n awdur nifer o werslyfrau a phecynnau addysgiadol i ysgolion. Bu'n darlithio mewn Hanes yn y Coleg Normal a Phrifysgol Bangor, a chlywir ei lais yn aml ar y radio yn rhoi cyd-destun hanesyddol i faterion y dydd. Mae'n byw ym Mhenygroes ger Caernarfon.

£9.99 -



Code(s)Rhifnod: 9781800995697

You may also like .....Falle hoffech chi .....