Trwy Ddyddiau Gwydr

Author: Siân Northey.

A first volume of sensual and lyrical poetry from talented writer Siân Northey, who has published extensively for adults and children. Her latest novel for adults was Yn y Tŷ Hwn (Gomer, 2011).

 

Awdur: Siân Northey.

Cyfrol gyntaf o gerddi synhwyrus a thelynegol gan y llenor amryddawn Siân Northey, a gyhoeddodd sawl cyfrol o ffuglen ar gyfer oedolion a phlant. Ei nofel ddiweddaraf ar gyfer oedolion oedd Yn y Tŷ Hwn (Gomer, 2011).

 

Cyn i mi ddarllen y gyfrol hon dim ond enw a llais achlysurol ar Dalwrn y Beirdd Radio Cymru oedd Sian Northey. O ddarllen y cerddi rwy’n teimlo fy mod i’n ei hadnabod yn well. Ond ddim yn llwyr. Na, y tu ôl i symlrwydd ymddangosiadol ei gwaith mae yna ddyfnder twyllodrus.

Rhyw Tardis o gyfrol yw hon. Rhwng bys a bawd mae hi’n teimlo’n denau. Ond mae ei 93 o dudalennau’n cynnwys bydoedd o brofiad. Mae hi hefyd yn rhychwantu blynyddoedd o gyfansoddi, gyda’r gerdd gyntaf yn mynd yn ôl i 1997 pan ddaeth hi’n ail am y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala.

Yn ei ragair crynhodd Gwyn Thomas nodweddion gwaith Sian: ‘Y mae’r gyfrol hon yn llawn teimladau cryfion a gonest iawn, am serch, am deulu, am farwolaeth, ac yn llawn chwilfrydedd deallus am fanylion diddorol bywyd.’

Mae’r cerddi’n rhai mor bersonol fel fy mod yn teimlo weithiau fel petawn i’n clustfeinio ar gyfrinachau merch mewn cyffesgell. Cawn y teimlad fy mod i’n ymyrryd ar feddyliau rhywun na fwriadai i neb arall eu clywed.

Unwaith eto gosododd Gwyn Thomas ei fys ar brif nodweddion y bardd: ‘Y mae gan Sian Northey’r gallu i ysgwyd rhywun â chryfder ei phrofiadau, yn ogystal â’r gallu i symud rhywun â rhyfeddodau ei dychymyg.’

Mae cynildeb rhai o’r cerddi’n boenus o dwyllodrus. Naddwyd y dweud i’r byw gan adael i bob gair frwydro am ei le. Mae’r gerdd ‘Llwybr’ yn ingol yn ei hatgofion. Fel haiku, does yma’r un gair wedi’i wastraffu. ‘Y Swynwr Ceffylau’ wedyn. Dim ond rhywun sydd wedi gweld ceffyl yn cael ei ddofi allai fod wedi cyfansoddi hon. A’r dagrau wedi’r dofi yn dychrynu.

Ac ‘Ar Goll’ wedyn – mor syml, mor ingol, ac yn ein gorfodi i gofio am ambell un na ddychwelodd ac sy’n dal ar goll. Yn ‘Llnau Neuadd Ddu’, dim ond gwir fardd fedrai ddweud am:

‘grafu’r brigau’r ysgub / yng nghof y rhiniog.’

Mae ‘Cerdd Serch’ yn fy atgoffa o rai o gerddi mwyaf teimladwy Patrick Kavanagh gyda’r ddelwedd o’r fforch yn y ffordd. Ac fel tad-cu sy’n gwneud ei siâr o warchod ffolais ar ‘Nos Da’.

Dyma gyfrol heintus y gwnaf ddychwelyd ati dro ar ôl tro a chanfod rhywbeth newydd ynddi bob tro. Mae ailddarllen cerdd fel ei chanfod am y tro cyntaf. Dyma fardd sy’n canu o’r enaid ac o’r galon. Y dasg anoddaf yw penderfynu p'un ddaw o ble.

Lyn Ebenezer

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

£7.50 -



Code(s)Rhifnod: 9781845273767
9781845273767

You may also like .....Falle hoffech chi .....