Item added to your cart:Wedi ei roi yn eich basged:
Items in your cartNwyddau yn eich basged
TotalCyfanswm: GBP
Author: Noel Gibbard.
Awdur: Noel Gibbard.
Brodor o Gwm Gwendraeth yw'r Parch. Ddr Noel Gibbard. Bu'n weinidog gyda'r Annibynwyr yn Nowlais ac ym Mynea, Llanelli, ac yn ddarlithydd yng Ngholeg Diwinyddol Efengylaidd Cymru ym Mryntirion, Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd yn un o sylfaenwyr Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd yn 1979, lle y bu'n henuriad ac am gyfnod yn gyd-weinidog.
Mae'n awdur cynhyrchiol iawn ac wedi ysgrifennu nifer o lyfrau a llu o erthyglau, yn Gymraeg ac yn Saesneg, ar hanes Cristnogaeth yng Nghymru o gyfnod y Diwygiad Protestannaidd i lawr at yr ugeinfed ganrif ac ar gyfraniad Cristnogion Cymru i ledaeniad yr efengyl ar draws y byd.
Mae'n emynydd profiadol. Enillodd y gystadleuaeth llunio emyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1991 ac mae rhai o'i emynau wedi eu cynnwys yn y casgliad cydenwadol Caneuon Ffydd (2001).