Wedi ei roi yn eich basged:
Nwyddau yn eich basged
Cyfanswm: GBP
Awdur: Gareth Evans.
Nofel antur wedi'i lleoli ym merw'r chweched ganrif ym Mhrydain yn y flwyddyn 552. Ynys ranedig, llawn tensiwn, sy'n bygwth ffrwydro fel llosgfynydd. Ynys sy'n simsanu ar ôl i'r pla sgubo drwy'r tir. Y cleddyf sy'n rheoli bellach, ac mae'n rhaid i bawb ddilyn y drefn. Yn enwedig plant. Yn enwedig merched. Pawb heblaw merch deuddeg oed o'r enw Ina.
Mae Ina’n wahanol. Am ei bod yn medru ymladd a thrin pastwn cystal ag unrhyw ryfelwr ifanc. Am ei bod yn medru dilyn trywydd prae cystal ag unrhyw heliwr. Am ei bod yn medru darllen ac ysgrifennu – yn Lladin, cofiwch. Ac am mai hi yw’r un o’r ychydig rai dethol a wellodd eto ar ôl dioddef o’r pla. Ond mae pris i’w dalu. Dydi bod yn wahanol yn yr oes hon ddim yn beth hawdd. Mae pobl yn meddwl ei bod yn rhyfedd. Yn od. Yn ferch i’w hosgoi.
Daw’r amser i Ina adael ei bywyd tawel mewn hen villa Rufeining yng Ngwent. A daw bygythiad llawn mor angheuol â’r pla i’w herio. Bygythiad sy’n ei hyrddio ar daith beryglus. wrth ei hochr, Bleiddyn y ci - ei hunig ffrind. Ac yn ei sach, y pibgorn hud.