Wythnos ym Mywyd Dewin Dewr

Awdur: Menna Beaufort Jones.

Cyfres: Llyfrau Llafar a Phrint.

Bachgen bach cyffredin yw Dewi, ond yn ei amser hamdden, mae'n archarwr! Mae pencadlys Dewi Dewr yn y cwpwrdd dan staer, a phan fydd y botwm coch yn fflachio a'i sbectol gyffredin yn troi'n sbectol pelydr pipo, mae'n gwybod bod angen ei help ar rywun ... Stori i blant 3-7 oed.

Rhan o gyfres Llyfrau Llais a Phrint, sef straeon hwyliog sy’n anelu i ddatblygu a hyrwyddo sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu plant y Cyfnod Sylfaen. Bydd pob un o’r llyfrau lliwgar hyn ar gael fel llyfrau (maint A4) neu fel e-lyfrau gyda sain. Bydd y clipiau sain ar gael i’w lawrlwytho oddi ar y we hefyd. Ceir synopsis Saesneg o gynnwys pob stori ar y cefn er budd rhieni di-Gymraeg.

£3.50 -



Rhifnod: 9781845215897
9781845215897

Falle hoffech chi .....