Wedi ei roi yn eich basged:
Nwyddau yn eich basged
Cyfanswm: GBP
Awdur: Jo Rigg, Sarah McCrum; Addasiad Cymraeg: Glyn Saunders Jones, Gill Saunders Jones.
Cyfres: Sgwennu a Sychu.
Llyfr 'bwrdd du' dwyieithog y gall plant dynnu llun ynddo, ei lanhau a'i ddefnyddio dro ar ôl tro. Mae'n meithrin sgiliau sylfaenol plant ifanc. Addas i'r Cyfnod Sylfaen.
Dyma anrheg ardderchog i blentyn sy’n dechrau tynnu lluniau. Mae’n cynnwys pecyn o sialc i ysgrifennu a lliwio ar y tudalennau sydd fel bwrdd du (a gellir eu sychu dro ar ôl tro). Ar bob tudalen ceir llinellau dotiog i’w cysylltu er mwyn gwneud lluniau, a hefyd awgrymiadau am liwiau. Mae yna thema i bob tudalen – siapiau, bwyd a diod, teganau, anifeiliaid anwes, teithio, y fferm, y tu allan, a’r sw – ac mae’r lluniau yn datblygu’n rhai mwy cymhleth wrth i’r plentyn weithio’i ffordd drwy’r llyfr. Ceir nifer o gwestiynau ar bob tudalen i ennyn trafodaeth ar y themâu. Mae’r rhain oll yn ddwyieithog, ac felly mae’n llyfr addas ar gyfer dysgwyr a Chymry Cymraeg fel ei gilydd.
Heather Williams
Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.