Wedi ei roi yn eich basged:
Nwyddau yn eich basged
Cyfanswm: GBP
Awdur: Aled Jones Williams.
Storïau byrion wedi’u lleoli ym Mlaenau Seiont a’r cyffiniau, gan lenor gwreiddiol cyfoes.
Pa mor fyr yw stori fer? Efallai mai hwnnw oedd fy nghwestiwn yn Ionawr 2021 a’r pla yn ei anterth drachefn pan benderfynais roi cynnig ar ysgrifennu storïau byrion byr; rhywbeth yr oeddwn wedi dyheu am ei wneud ers tro byd.
Ond cofier nad ymateb i’r pla ydynt o gwbl: yr amod oedd dim mwy nag awr ballu i greu pob un, er y caniateid – gan bwy? – newidiadau bychain ond dim byd sylweddol wedi hynny. Ar y cyfan, mwy neu lai, cedwais at hynny. Fe’u hysgrifennwyd yn ddyddiol gydol Ionawr ac i mewn i Chwefror.
Pan oedd y pla ei hun yn gwthio pawb i’r hanfodol, i’r ‘byr’ mewn geiriau eraill …
Aled, 2021