Wedi ei roi yn eich basged:
Nwyddau yn eich basged
Cyfanswm: GBP
Mae albym yr aml-dalentog Tudur Huws Jones yn llawn o ganeuon personol sy'n adlewyrchu diddordeb y cyfansoddwr mewn hanes ac yn y byd o'i gwmpas, ac yn arbennig felly brwydr y gweithiwr am ei hawliau. Mae'n canu i'r rhai a gollodd eu gwaith, ac i rai fel streidwyr Friction Dynamics Caernarfon a fu'n ymladd yn ofer am eu swyddi, a hynny gan mlynedd union wedi streic fawr y chwarelwyr. Canodd hefyd i'r rhai a fu'n ymladd yn Rhyfel Cartref Sbaen, ac i'r rhai a gollodd eu bywydau yn Rhyfel Cartref America, un o'i hoff feysydd hanes. Ond mae Tudur hefyd wedi gwreiddio yng Nghymru, ac efallai mai ei ganeuon mwyaf hudolus yw'r rhai i'w gariad, yn arbennig felly y clasur "Angor". Mae'r cyfan wedi ei gyflwyno mewn arddull a ddylanwadwyd gan gerddoriaeth werin Cymru a'r America, gyda dogn o ddylanwad Gwyddelig hefyd yn amlwg, ac amlygir doniau Tudur ei hun ar y banjo, ar y gitar, ac ar y pibau i greu cyfanwaith hynod o gyfoethog a chofiadwy.
Traciau -
01 - Angor
02 - Dal i drio
03 - Magi Tudur
04 - Miliwn
05 - Perffaith
06 - Banjoio offerynnol
07 - Sbaen 1936
08 - Carped hud
09 - Isgoed offerynnol
10 - Cau drws y ty
11 - Wrecsam i Fachynlleth offerynnol
12 - Os daw ’nghariad
13 - Mountain Jim
14 - Amser maith yn ôl.